Neidio i'r prif gynnwy

Sganiau twf

Mae twf eich babi yn cael ei fonitro yn ystod beichiogrwydd gan ddefnyddio siart twf personol, sy'n ystyried eich taldra, pwysau, tarddiad ethnig a beichiogrwydd blaenorol. Gallai’r rhain ddylanwadu ar ba mor fawr y bydd eich babi yn tyfu.

Mae’r siartiau hyn yn cael eu defnyddio i blotio twf eich babi a galluogi bydwragedd ac obstetryddion i ddarparu cynllun gofal.

Bydd ambell ffactor yn pennu sut bydd eich babi’n cael ei fesur.

Os nad oes unrhyw ffactorau risg gyda chi, bydd y fydwraig neu'r obstetrydd yn mesur twf eich babi gan ddefnyddio tâp mesur, er mwyn asesu maint eich bwmp ym mhob apwyntiad cyn-geni. Mae’n bosib y bydd eich bydwraig yn eich cyfeirio am sgan os bydd yn credu y gallai eich babi fod yn llai neu'n fwy na'r disgwyl.

Gallai ambell ffactor olygu y bydd angen i chi gael sganiau rheolaidd, gan eu bod nhw’n gallu dylanwadu ar y twf. Er enghraifft, os ydych chi’n ysmygu, os ydy Mynegai Màs eich Corff (BMI) yn fwy na 35 neu os cafodd eich babi blaenorol ei eni’n isel ei bwysau.

Mae’n bosib bod rhagor o resymau am y sganiau hyn, a bydd eich bydwraig neu obstetrydd yn trafod y rhain gyda chi.

Bydd y sganiau hyn yn cael eu cynnal bob 3-4 wythnos drwy gydol eich beichiogrwydd, gan ddechrau ar ôl rhyw 28 wythnos.

Bydd yr unigolyn sy'n cynnal y sgan (sonograffydd) yn gwirio maint eich babi trwy fesur cylchedd pen eich babi, ei fol a hyd asgwrn ei glun. Yn ogystal â hynny, bydd yn gwirio'r hylif amniotig o amgylch y babi a'r llif gwaed o'r brych i'ch babi. (Doppler). Bydd bydwraig neu obstetrydd yn plotio’r mesuriadau hyn ar y siart twf ac yn eu gwirio i wneud yn siŵr fod eich babi’n tyfu yn ôl y disgwyl.

Dilynwch ni: