Neidio i'r prif gynnwy

Fitaminau ac atchwanegiadau yn ystod beichiogrwydd

Bydd bwyta deiet iach ac amrywiol yn ystod beichiogrwydd yn eich helpu i gael mwyafrif y fitaminau a'r mwynau sydd eu hangen arnoch. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n feichiog, neu os oes siawns y gallech chi ddod yn feichiog, mae'n bwysig cymryd atchwanegiad asid ffolig hefyd.

Mae hyn er mwyn atal a lleihau'r risg o broblemau o ran datblygiad y babi (fel nam ar y tiwb niwral yn datblygu yn y ffetws (y babi)).

Asid Ffolig

Dylai pob menyw gymryd asid ffolig hyd at ddiwedd 12fed wythnos ei beichiogrwydd (yn ddelfrydol ymlaen llaw).

Dylai menywod gyda BMI o 30 neu lai gymryd 400mcg o asid ffolig.

Dylai menywod gyda BMI o fwy na 30 gymryd 5mgs o asid ffolig. Bydd angen i'ch meddyg teulu bresgripsiynu hyn.

Dylai rhai menywod, gan gynnwys y rheiny gydag epilepsi, diabetes, hanes personol neu hanes teuluol o nam ar y tiwb niwral neu daflod hollt (cleft palate), gymryd 5mg o asid ffolig.

Fitamin D

Mae angen 10 microgram o fitamin D arnoch chi bob dydd, a dylech chi ystyried cymryd atchwanegiad sy'n cynnwys y swm hwn rhwng mis Medi a mis Mawrth.

Mae fitamin D yn rheoli faint o galsiwm a ffosffad sydd yn eich corff, ac mae angen y rhain i gadw eich esgyrn, eich dannedd a’ch cyhyrau'n iach. Mae ein cyrff yn cynhyrchu fitamin D pan fydd ein croen yn dod i gysylltiad â golau’r haul yn yr haf (o ddiwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill hyd at ddiwedd mis Medi).

Dydy hi ddim yn hysbys faint o amser yn union sydd ei angen yn yr haul i gynhyrchu digon o fitamin D er mwyn diwallu anghenion y corff. Fodd bynnag, os byddwch chi allan yn yr haul, sicrhewch eich bod chi’n gorchuddio eich hun neu’n diogelu eich croen gydag eli haul cyn i chi ddechrau troi'n goch neu losgi.

Mae fitamin D mewn rhai bwydydd hefyd, gan gynnwys:

  • pysgod olewog (fel eog, macrell, pennog a sardinau)
  • wyau
  • cig coch

Mae fitamin D yn cael ei ychwanegu at rai grawnfwydydd, taeniadau braster a mathau amgen o laeth. Mae’r symiau sy’n cael eu hychwanegu at y cynhyrchion hyn yn gallu amrywio, ac mae’n bosib mai dim ond ychydig o fitamin D sy’n cael ei ychwanegu.

Gan mai dim ond mewn nifer fach o fwydydd y mae fitamin D, boed hynny’n naturiol neu beidio, mae'n anodd cael digon ohono drwy fwydydd yn unig.

Peidiwch â chymryd mwy na 100 microgram (4,000 IU) o fitamin D y dydd. Gallai hyn fod yn niweidiol i chi.

Mae modd cael atchwanegiadau fitamin, sy'n cynnwys fitamin D, yn rhad ac am ddim os ydych chi’n feichiog neu'n bwydo ar y fron, ac os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun Dechrau Iach.

Ble i gael atchwanegiadau ar gyfer beichiogrwydd

Mae modd cael atchwanegiadau o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd, neu mae’n bosib y bydd meddyg teulu yn gallu eu presgripsiynu nhw ar eich cyfer.

Os ydych chi am gael eich asid ffolig o dabled amlfitamin, gwnewch yn siŵr nad ydy'r dabled yn cynnwys fitamin A (neu retinol).

Mae’n bosib i chi gael fitaminau am ddim os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun Dechrau Iach.

Peidiwch â chymryd olew iau penfras (cod liver oil) nac unrhyw atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A (retinol) pan fyddwch chi’n feichiog. Gallai gormod o fitamin A niweidio eich babi. Gwiriwch y label bob amser.

Dilynwch ni: