Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar Ddiogelwch Bwyd tra'n Feichiog

Nawr eich bod yn feichiog mae yna gyngor pwysig am ddiogelwch bwyd. Ar y cyfan, nid oes angen i chi newid eich arferion bwyta, bwyta i ddau neu wneud unrhyw beth heblaw bwyta deiet amrywiol, iach.

Mae ‘na rhai bwydydd dydych chi ddim yn gallu bwyta ac eraill sy'n cael eu cynghori i fwyta yn gymedrol yn unig. Dyma rai pethau pwysig y dylech wybod amdanynt. Os oes gennych gwestiynau pellach, gofynnwch i'ch bydwraig.

Afu a pâté

Peidiwch â bwyta afu neu gynnyrch sy'n cynnwys afu, fel pâté afu, selsig afu neu hagis. Dylech hefyd osgoi pob pâté arall gan gynnwys y math llysieuol gan y gallai gynnwys listeria o hyd. Hefyd, gall pâté gynnwys llawer o Fitamin A a all fod yn niweidiol i fabanod sy'n datblygu.

Wyau amrwd

Wyau cod y Llew yw'r rhai sydd â logo llew coch ar eu masgl, sy'n cael eu hystyried yn ddiogel i fenywod beichiog fwyta'n amrwd neu wedi'u coginio'n rhannol. Felly, gallwch chi fwyta wyau wedi'u berwi'n feddal, y mousse siocled blasus hwnnw, soufflés a mayonnaise ffres pe bai'r wyau'n cael eu cynhyrchu o dan Cod y Llew. 

Os nad wyau Cod y Llew ydyn nhw, gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u coginio'n drylwyr. Mae hyn yn golygu coginio nes bod y gwyn a'r melynwy yn solet i atal y risg o salmonela.

Cig heb ei goginio

Fe'ch cynghorir i beidio â bwyta cig amrwd neu gig heb ei goginio'n ddigonol oherwydd y risg bosibl o docsoplasmosis. Mae hwn yn heintiad a achosir gan baraseit.

Coginiwch yr holl gig a dofednod yn drylwyr, gan wneud yn siŵr ei fod yn chwilboeth ac nad oes ganddo unrhyw olion pinc na gwaed. Byddwch yn arbennig o ofalus gyda dofednod, porc, selsig a briwgig, gan gynnwys byrgyrs.

Cigoedd oer

Nid yw llawer o gigoedd oer fel salami, prosciutto, chorizo ​​a pepperoni yn cael eu coginio, maen nhw'n cael eu halltu a'u heplesu. Mae hyn yn golygu bod risg eu bod yn cynnwys paraseitiaid sy'n achosi tocsoplasmosis hefyd. 

Gwiriwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn i weld a oes angen coginio'r cynnyrch. Mae cigoedd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw fel ham a chig eidion corn yn cael ei ystyried yn ddiogel i’w bwyta yn ystod beichiogrwydd.

Helgig

Ceisiwch osgoi bwyta helgig sydd wedi'i saethu â phelenni plwm tra'ch bod chi'n feichiog. Gallai gynnwys lefelau uchel o blwm.

Atchwanegiadau fitamin ac olew pysgod

Peidiwch â chymryd atchwanegiadau lluosfitamin dos uchel, atchwanegiadau olew afu pysgod, nac unrhyw atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A.

Pysgod

Osgowch siarc, cleddbysgod neu farlyn a chyfyngwch ar nifer y pysgod olewog gan gynnwys tiwna, eog, brithyllod, penwaig a macrell y byddwch yn eu bwyta i ddau ddogn yr wythnos. Gall y pysgod hyn gynnwys llygryddion, fel mercwri, a allai effeithio ar system nerfol eich babi.

Nid yw tiwna mewn tun yn cyfrif fel pysgod olewog, felly gallwch chi fwyta pedwar can maint canolig yr wythnos ar ben dau ddogn o bysgod olewog (ond nid tiwna ffres).

Ceisiwch osgoi bwyta pysgod mwg oer neu bysgod wedi'u halltu sy'n barod i'w bwyta, oherwydd y risg o listeria. Mae hyn yn cynnwys eog mwg, gravlax neu bysgod amrwd mewn swshi. Os ydych chi'n coginio'r pysgod nes ei fod yn chwilboeth drwyddo, mae'n ddiogel i'w fwyta.

Pysgod cregyn

Peidiwch byth â bwyta pysgod cregyn amrwd, sy'n cynnwys cregyn gleision, cimwch, cranc, corgimychiaid, cregyn bylchog a chregyn cylchog. Gall pysgod cregyn gynnwys bacteria a feirysau niweidiol a all achosi gwenwyn bwyd. Mae corgimychiaid oer wedi'u coginio ymlaen llaw yn iawn. Hefyd osgoi swshi

Pysgnau

Helpwch eich hun i bysgnau neu fwyd sy'n cynnwys pysgnau fel menyn pysgnau. Hynny yw, oni bai bod gennych alergedd iddynt neu fod gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i beidio â gwneud hynny.

Llaeth heb ei basteureiddio a chaws meddal

Cadwch at laeth wedi'i basteureiddio neu wedi'i drin â gwres (UHT)/llaeth hir oes. Os mai dim ond llaeth amrwd (heb ei basteureiddio) sydd ar gael, berwch ef yn gyntaf.

Peidiwch ag yfed llaeth geifr neu ddefaid heb ei basteureiddio. Ceisiwch osgoi bwyta bwydydd wedi'u gwneud o laeth heb ei basteureiddio (e.e. caws gafr feddal), caws meddal wedi'i aeddfedu gan lwydni (e.e. brie neu camembert) neu gaws meddal â gwythiennau glas (e.e. Roquefort neu las Denmarc).

Gallai llaeth a chaws heb ei basteureiddio cynnwys listeria, a all achosi heintiad anarferol a elwir yn listeriosis. Gallai hynny arwain at gamesgoriad, marw-enedigaeth neu salwch difrifol mewn babanod newydd-anedig.

Caffein

Gall lefelau uchel o gaffein arwain at gamesgoriad neu bwysau geni isel i fabanod, a all achosi problemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid oes angen i chi dorri mas caffein ond osgoi cael mwy na 200mg y dydd. Osgoi diodydd egni. Yr amcangyfrif o gaffein a geir mewn bwyd a diodydd yw:

  • mwg o goffi parod: 100 mg  
  • mwg o goffi wedi ei hidlo: 140 mg  
  • mwg o de: 75mg 
  • can o cola: 40 mg  
  • Dogn o 50g o siocled tywyll: llai na 25mg 
  • Dogn o 50g o far siocled llaeth: llai na 10mg.

Te llysieuol a gwyrdd

Ychydig o wybodaeth sydd am eu diogelwch felly anelwch am ddim mwy na phedwar cwpan y dydd. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu'ch bydwraig am gynhyrchion llysieuol penodol. O, a chofiwch fod te gwyrdd yn cynnwys caffein.

Awgrymodd un astudiaeth y gallai licris fod yn niweidiol yn ystod beichiogrwydd ond does dim canllawiau wedi'u gwneud. Mae'r GIG yn awgrymu y gallwch gael symiau cymedrol o felysion licris a the ond dylech osgoi moddion llysieuol gwraidd licris.

Bwydydd wedi'u pecynnu a’u phrosesu’n helaeth

Bwydydd wedi'u pecynnu a’u phrosesu’n helaeth sy'n cynnwys siwgr a halen wedi'u hychwanegu, gan y gallent gynyddu eich risg o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd neu bwysedd gwaed uchel.

*Sicrhewch fod pob bwyd o fewn eu dyddiadau defnyddio erbyn ac osgoi ailgynhesu*

Rhagor o wybodaeth:

Dilynwch ni: