Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau yn ystod beichiogrwydd

Rydyn ni’n argymell i chi gael eich brechu rhag y ffliw tymhorol, y pas (whooping cough) a COVID-19 yn ystod beichiogrwydd. Gweler yr adrannau isod am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal â hynny, siaradwch â'ch bydwraig, eich meddyg teulu neu eich obstetregydd os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth arnoch chi.

Mae mwy na 200,000 o fenywod yn y DU ac yn UDA wedi cael brechlyn rhag COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, heb unrhyw bryderon o ran diogelwch.

Mae tystiolaeth ragorol bod y brechlyn yn effeithiol; o blith y menywod sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty ac yn cael haint difrifol, dydy 98% ohonynt ddim wedi cael y brechlyn (sy’n dangos mai menywod heb eu brechu yw’r rheiny sy'n mynd yn ddifrifol sâl ac yn gorfod cael eu derbyn i Uned Therapi Dwys).

Nodwyd dim cynnydd yn nifer yr achosion o annomaledd cynenedigol oherwydd haint COVID-19.

Dydy brechlynnau COVID-19 ddim yn cynnwys unrhyw beth sy’n niweidiol i fenywod beichiog nac i'r babi sy'n datblygu. Dydy astudiaethau o'r brechlynnau mewn anifeiliaid, er mwyn edrych ar yr effeithiau ar feichiogrwydd, ddim wedi dangos unrhyw dystiolaeth bod y brechlyn yn achosi niwed i'r beichiogrwydd nac i ffrwythlondeb.

Dydy'r brechlynnau rhag COVID-19 sy'n cael eu defnyddio ddim yn frechlynnau 'byw', felly dydyn nhw ddim yn gallu achosi’r fam neu’r babi i gael haint COVID-19, ac mae tystiolaeth bod brechlynnau eraill sydd ddim yn rhai byw yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd (e.e. brechlynnau rhag y ffliw a’r pas (whooping cough)).

Mae modd cael y brechlyn rhag COVID-19 unrhyw bryd yn ystod beichiogrwydd, a’r dewis cyntaf yw cynnig brechlyn Pfizer-BioNTech neu frechlyn Moderna.

Mae menywod beichiog sy'n cael brechlyn rhag COVID-19 yn dweud eu bod nhw’n cael mân effeithiau niweidiol cyffredin, yn debyg i’r rheiny sydd ddim yn feichiog.

Mae menywod sy'n bwydo ar y fron yn gallu cael brechlyn rhag COVID-19 heb orfod rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.

Does dim tystiolaeth i awgrymu bod brechlynnau rhag COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb.

Mae menywod sy'n cynllunio beichiogrwydd neu driniaeth ffrwythlondeb yn gallu cael brechlyn rhag COVID-19, a does dim angen iddyn nhw oedi cenhedlu.

Mae rhagor o wybodaeth gyfoes ar y dolenni canlynol:

Mae rhagor o wybodaeth gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr ynglŷn â haint y Coronafeirws a beichiogrwydd yma

Mae taflen wybodaeth a chymorth i benderfynu gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr yma

Mae gwybodaeth gan Lywodraeth y DU i’w gweld yma

Mae rhagor o wybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

Mae nifer yr achosion o’r pas (whooping cough) wedi codi'n sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a babanod sy'n rhy ifanc i ddechrau cael eu brechu sy’n wynebu’r risg fwyaf.

Yn aml, bydd babanod ifanc gyda’r pas yn sâl iawn, a bydd y mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd eu salwch. Pan fydd achos arbennig o ddifrifol o’r pas gyda nhw, mae’n bosib y byddan nhw’n marw.

Mae menywod beichiog yn gallu helpu i ddiogelu eu babanod trwy gael eu brechu – yn ddelfrydol rhwng 16 wythnos a 32 wythnos o’u beichiogrwydd. Os na fyddwch chi'n gallu cael y brechlyn am unrhyw reswm, mae modd i chi ei gael hyd nes i chi ddechrau rhoi genedigaeth.

Pam y dylai menywod beichiog gael y brechlyn?

Mae cael eich brechu pan fyddwch chi'n feichiog yn hynod o effeithiol o ran diogelu eich babi rhag datblygu’r pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.

Bydd yr imiwnedd byddwch chi’n ei gael gan y brechlyn yn cael ei drosglwyddo i'ch babi trwy'r brych ac yn darparu diogelwch goddefol iddo, nes ei fod yn ddigon hen i gael ei frechu rhag y pas yn 8 wythnos oed.

Pryd y dylwn i gael y brechlyn rhag y pas?

Yr adeg orau i gael eich brechu er mwyn diogelu eich babi yw rhwng 16 wythnos a 32 wythnos o’ch beichiogrwydd. Mae hyn yn gwella’r tebygolrwydd y bydd eich babi’n cael ei ddiogelu ar ôl cael ei eni, trwy drosglwyddo eich gwrthgyrff cyn genedigaeth.

Os na fyddwch chi'n gallu cael y brechlyn am unrhyw reswm, mae modd i chi ei gael hyd nes i chi ddechrau rhoi genedigaeth. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn ddelfrydol, gan fod eich babi’n llai tebygol o gael ei ddiogelu gennych chi. Yn ystod y cam hwn o'r beichiogrwydd, mae’n bosib na fydd cael y brechiad yn diogelu eich babi’n uniongyrchol, ond byddai'n helpu i’ch diogelu chi rhag y pas a rhag ei drosglwyddo i'ch babi.

Ydy'r brechlyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Mae pryderon ynglŷn â diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd yn ddealladwy, ond does dim tystiolaeth i awgrymu bod y brechlyn rhag y pas yn anniogel i chi nac i'ch babi yn y groth.

Mae brechlyn sy'n cynnwys pertwsis (brechlyn rhag y pas) wedi cael ei ddefnyddio i frechu menywod beichiog yn y DU ers mis Hydref 2012, ac mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn monitro ei ddiogelwch yn ofalus. Dydy'r astudiaeth hon o ryw 20,000 o fenywod sydd wedi cael eu brechu ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o risgiau i feichiogrwydd neu i fabanod.

Hyd yn hyn, mae tua 69% o fenywod beichiog cymwys wedi cael eu brechu rhag y pas heb unrhyw bryderon o ran diogelwch y babi neu'r fam.

Ydy brechiad rhag y pas yn ystod beichiogrwydd yn gweithio?

Ydy. Mae ymchwil sydd wedi ei chyhoeddi gan raglen frechu’r DU yn dangos bod brechu menywod beichiog rhag y pas wedi bod yn hynod o effeithiol o ran diogelu babanod ifanc nes iddyn nhw allu cael eu brechiad cyntaf yn 8 wythnos oed.

Roedd gan fabanod menywod, gafodd eu brechu o leiaf wythnos cyn y geni, 91% yn llai o risg o fynd yn sâl gyda’r pas yn ystod wythnosau cyntaf eu bywyd, o’u cymharu â babanod na chafodd eu mamau eu brechu.

Mantais arall yw y bydd y diogelwch mae'r fam yn ei gael gan y brechiad yn lleihau ei risg ei hun o gael ei heintio ac o drosglwyddo’r pas i'w babi.

 

Mae’r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn yn ystod beichiogrwydd. Os ydych chi'n feichiog, dylech chi gael brechlyn rhag y ffliw i helpu i'ch diogelu chi a'ch plentyn yn y groth. Mae brechlyn rhag y ffliw’n ddiogel yn ystod pob cam o'r beichiogrwydd.

Os bydd menyw feichiog yn cael y ffliw, bydd ei babi’n fwy tebygol o gael ei eni’n gynnar, o gael ei eni gyda phwysau geni isel, neu o fod yn farw-anedig neu o farw yn ystod ei wythnos gyntaf. Mae'r brechlyn hefyd yn helpu i ddiogelu’r babi yn ystod 4-6 mis cyntaf ei fywyd pan fydd y ffliw’n gallu bod yn ddifrifol iawn.

Dylech chi gael y brechlyn rhag y ffliw cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod eich bod yn feichiog (os ydy'r brechlyn ar gael – mae’n frechlyn tymhorol sydd fel arfer ar gael rhwng mis Hydref a mis Mawrth). Gallwch chi gael y brechlyn ar yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas, ond peidiwch ag oedi cael eich brechu rhag y ffliw os na fyddwch chi’n gallu cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.

Mae menywod beichiog yn gallu cael eu brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa neu mewn fferyllfa gymunedol.

Pam y dylai menywod beichiog gael y brechlyn rhag y ffliw?

Bydd y pigiad rhag y ffliw’n helpu i'ch diogelu chi a'ch babi.

Mae tystiolaeth dda bod menywod beichiog yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os byddan nhw’n cael y ffliw, yn enwedig yng nghyfnodau diweddarach eu beichiogrwydd.

Un o’r cymhlethdodau mwyaf cyffredin yn sgil y ffliw yw broncitis, sef haint ar y frest sy’n gallu mynd yn ddifrifol a datblygu i fod yn niwmonia.

Os byddwch chi’n cael y ffliw pan fyddwch chi’n feichiog, bydd hyn yn gallu achosi i'ch babi gael ei eni'n gynnar neu gael ei eni’n rhy ysgafn. Gallai hyn hyd yn oed arwain at farw-enedigaeth neu farwolaeth.

Ydy’r brechlyn rhag y ffliw’n ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Ydy. Yn ôl astudiaethau, mae cael y brechlyn rhag y ffliw yn ystod unrhyw gam o'r beichiogrwydd yn ddiogel, o'r wythnosau cyntaf hyd at eich dyddiad disgwyl.

Mae menywod sydd wedi cael y brechlyn ffliw tra’n feichiog hefyd yn trosglwyddo rhywfaint o ddiogelwch i’w babanod, sy’n para am ychydig fisoedd cyntaf eu bywydau.

Mae'n ddiogel i fenywod gael y brechlyn pan fyddan nhw'n bwydo ar y fron.

Pryd y dylwn i gael y brechlyn rhag y ffliw?

Yr adeg orau i gael y brechlyn rhag y ffliw yw’r hydref, cyn i'r ffliw ddechrau cylchredeg. Os ydy’r adeg hon wedi mynd heibio, gallwch chi gael y brechlyn rhag y ffliw’n ddiweddarach yn y gaeaf, ond gorau po gyntaf.

Peidiwch â phoeni os byddwch chi’n cael gwybod eich bod yn feichiog yn ddiweddarach yn nhymor y ffliw – gallwch chi gael y brechlyn bryd hynny os nad ydych wedi ei gael eisoes.

Sut mae modd cael y brechlyn rhag y ffliw?

Cysylltwch â'ch bydwraig neu eich meddygfa i gael gwybod ble mae modd i chi gael y brechlyn rhag y ffliw. Mae'n syniad da cael eich brechu cyn gynted â phosib pan fydd y brechlyn ar gael ym mis Medi.

Mewn rhai ardaloedd, mae bydwragedd yn gallu rhoi'r brechlyn rhag y ffliw i chi yn y clinig cyn-geni. Mewn ardaloedd eraill, bydd angen apwyntiad mewn meddygfa arnoch chi.

Erbyn hyn, mae rhai fferyllfeydd cymunedol yn cynnig brechlyn rhag y ffliw gan y GIG.

Os cefais i bigiad rhag y ffliw y llynedd, oes angen i mi gael un arall nawr?

Oes, gan fod y firysau sy'n achosi’r ffliw’n newid bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y ffliw (a'r brechlyn) eleni o bosib yn wahanol i'r llynedd.

Os cawsoch chi’r brechlyn rhag y ffliw y llynedd, naill ai gan eich bod chi’n feichiog neu gan eich bod chi mewn grŵp bregus, bydd angen i chi gael eich brechu eto eleni.

Fydd y pigiad rhag y ffliw’n rhoi’r ffliw i mi?

Na fydd. Dydy’r brechlyn ddim yn cynnwys unrhyw firysau byw, felly fydd dim modd iddo achosi’r ffliw. Bydd rhai pobl yn cael tymheredd ychydig yn uwch a chyhyrau poenus am gwpl o ddiwrnodau ar ôl cael eu brechu, ac mae’n bosib y bydd y man lle cawsoch chi’r pigiad yn ddolurus.

Ydw i’n gallu cael y pigiad rhag y ffliw yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas?

Gallwch, mae modd cael y pigiad rhag y ffliw yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas, ond peidiwch ag oedi cael eich brechu rhag y ffliw os na fyddwch chi’n gallu cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.

Mae menywod beichiog mewn perygl o gael salwch difrifol oherwydd y ffliw unrhyw bryd yn ystod beichiogrwydd, felly mae angen i chi gael y brechlyn rhag ffliw cyn gynted â phosib.

Rwy'n feichiog ac yn credu bod gyda fi’r ffliw. Beth ddylwn i ei wneud?

Siaradwch â meddyg teulu cyn gynted â phosib. Os oes gyda chi’r ffliw, gallai cymryd moddion ar bresgripsiwn eich helpu, neu leihau eich risg o ddatblygu cymhlethdodau, ond bydd angen cymryd y moddion yn fuan iawn ar ôl i'r symptomau ymddangos.

Dilynwch ni: