Neidio i'r prif gynnwy

Symudiadau'r ffetws

Mae symudiadau babanod yn y groth (enw arall ar hyn yw 'ciciau' neu 'symudiadau'r ffetws') yn gallu teimlo fel amrywiaeth o symudiadau. Mae’r math o symudiad yn gallu newid wrth i'ch beichiogrwydd fynd yn ei flaen.

Does dim nifer benodol o symudiadau arferol y dylech chi eu teimlo – mae pob babi yn wahanol. Dyma pam mae mor bwysig i chi ddod i arfer â sut mae eich babi'n symud.

Ar ôl 18-24 wythnos, dylech chi deimlo eich babi'n symud mwy a mwy. Ar ôl 32 wythnos, fydd y symudiadau rydych chi'n eu teimlo’n ddim yn newid ryw lawer nes i chi roi genedigaeth. Mae teimlo eich babi'n symud yn arwydd ei fod yn iach.  

Os bydd eich babi'n symud llai neu os byddwch chi’n sylwi ar newid, gall hyn weithiau fod yn rhybudd pwysig bod y babi'n sâl. Os byddwch chi’n cael y driniaeth gywir a'r gofal cywir cyn gynted â phosib, gallai hyn achub bywyd eich babi.

Rydyn ni’n gwybod bod cysylltiad rhwng symudiadau babi’n stopio, yn newid neu'n arafu, a'r risg o farw-enedigaeth.

Dydyn ni ddim yn argymell eich bod yn cyfrif symudiadau eich babi. Yn hytrach na hynny, byddwch yn ymwybodol o batrwm a threfn eich babi. Chi yw'r person gorau i fonitro p’un a ydy eich babi'n symud ai peidio.

Os bydd symudiadau eich babi’n newid mewn unrhyw ffordd, yn arafu neu'n stopio, bydd angen i chi ofyn am gyngor gan y gwasanaeth mamolaeth.

Rydyn ni ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ddylech chi byth fynd i'r gwely yn poeni am symudiadau eich babi, nac oedi ffonio. Mae angen i ni eich gweld chi yr un diwrnod/amser ag y byddwch chi’n sylwi ar newid yn symudiadau eich babi. Byddai'n well gyda ni eich gweld chi ar sawl achlysur os bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi am les eich babi.

Dylai eich babi symud drwy gydol eich beichiogrwydd a hyd yn oed wrth i chi roi genedigaeth. Dydy babanod ddim yn arafu nac yn 'rhedeg allan o le' tua diwedd beichiogrwydd, a dylai babi iach a hapus barhau i symud mewn patrwm rheolaidd.

Fel gwasanaeth mamolaeth, rydyn ni gerllaw i ddarparu gofal i chi a'ch babi yn y groth, a fyddwch chi byth yn gwastraffu ein hamser drwy gysylltu â ni gydag unrhyw bryderon. Yn union fel y mae i chi, mae eich lles chi a lles eich babi o'r pwys mwyaf i ni.

Os mai chi yw partner menyw feichiog, neu os ydych chi’n ffrind iddi neu’n aelod o’i theulu, dylech chi roi cymorth iddi bob amser drwy ddweud wrthi am beidio ag aros a dweud wrth am ofyn am gymorth os bydd hi'n dweud bod pryderon gyda hi ynglŷn â symudiadau ei babi.

Dylech chi beidio â defnyddio dyfeisiau Doppler/dyfeisiau monitro nac apiau ar eich ffôn i wirio curiad calon eich babi. Hyd yn oed os byddwch chi’n synhwyro curiad calon, dydy hyn ddim o’r rheidrwydd yn golygu bod eich babi'n iach. Gofynnwch am gymorth gan eich bydwraig neu eich uned famolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth yma

https://www.tommys.org/sites/default/files/2021-03/RFM%20leaflet%20WELSH_2021.pdf

Dilynwch ni: