Ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd

Mae ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd nid yn unig yn bwysig i'ch iechyd corfforol, ond i'ch lles emosiynol hefyd.  Bydd 30 munud o ymarfer, bum gwaith yr wythnos, yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cadw'n heini, yn eich helpu i osgoi ennill pwysau ac i gysgu'n well, yn ogystal â helpu i atal rhwymedd, pen tost, poen yn y cefn, poen yn y pelfis, cramp a thraed chwyddedig.

Os oeddech chi'n cadw’n heini cyn dod yn feichiog, daliwch ati!

Os nad oeddech chi'n gwneud rhyw lawer o ymarfer corff cyn dod yn feichiog, mae nawr yn adeg wych i ddechrau! Cymerwch eich amser.  Yn gyffredinol, dylech chi allu cynnal sgwrs wrth wneud ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd.

Dogfennau Ategol

 

 

Dolenni ategol

 

Ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd: beth i'w wybod

Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynaecolegwyr – Ymarfer corff a beichiogrwydd