Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19 a beichiogrwydd

Beichiogrwydd a'ch risg

Os ydych chi'n feichiog, dydy eich siawns o gael COVID-19 ddim yn uwch nag unrhyw un arall, ac mae'n annhebygol iawn y byddwch chi'n mynd yn ddifrifol wael ag ef.

Mae menywod beichiog yn y grŵp risg gymedrol (agored i niwed yn glinigol) fel rhagofal. Mae hyn gan eich bod chi weithiau mewn mwy o berygl o gael firysau fel y ffliw os ydych chi'n feichiog. Dydy hi ddim yn glir p’un a fydd hyn yn digwydd gyda COVID-19 ai peidio. Fodd bynnag, gan fod hwn yn firws newydd, mae'n fwy diogel cynnwys menywod beichiog yn y grŵp risg gymedrol.

Er ei bod hi’n anghyffredin iawn i fenywod beichiog fynd yn ddifrifol wael os byddan nhw’n cael COVID-19, mae hyn yn fwy tebygol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.

Mae’n bosib i chi drosglwyddo COVID-19 i'ch babi cyn iddo gael ei eni. Fodd bynnag, pan mae hyn wedi digwydd, mae’r babanod wedi gwella.

Does dim tystiolaeth bod COVID-19 yn achosi camesgoriad nac yn effeithio ar sut mae eich babi’n datblygu yn ystod beichiogrwydd.

Dyma rai o’r ffactorau risg ychwanegol sy'n gysylltiedig â chael haint COVID-19 a gorfod mynd i'r ysbyty:

  • Y rheiny o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
  • Y rheiny gyda BMI uwch na 25 kg/m2
  • Y rheiny gyda chydafiechedd cyn beichiogrwydd (e.e. diabetes neu orbwysedd)
  • Y rheiny gydag oedran mamol o 35 oed neu'n hŷn
  • Y rheiny sy'n byw mewn mwy o amddifadedd economaidd-gymdeithasol
  • Y rheiny sy'n gweithio ym maes gofal iechyd neu alwedigaethau eraill sy'n wynebu'r cyhoedd.

Beth sy'n hysbys am COVID-19 yn ystod beichiogrwydd?

Fydd dim symptomau o gwbl gyda thua dwy o bob tair o fenywod sy'n cael prawf positif am COVID-19 yn ystod beichiogrwydd. Yn y DU, mae gwaith monitro’n dangos bod tua un o bob 100 o fenywod beichiog sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty yn cael prawf positif am COVID-19 (er y bydd hyn yn newid yn ystod camau’r pandemig).

Mae tystiolaeth gynyddol y gallai menywod beichiog wynebu mwy o berygl o gael achos difrifol o COVID-19 o'u cymharu â menywod sydd ddim yn feichiog, yn enwedig yn ystod tri mis olaf beichiogrwydd. Yn gyffredinol, mae'r risg o farwolaeth yn dal i fod yn isel iawn.

Bydd angen gofal dwys ar 1 o bob 10 menyw sy’n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19. Yn ystod camau diweddarach beichiogrwydd, mae menywod yn wynebu mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19.

Er bod y tebygolrwydd o gael marw-enedigaeth yn isel, os oes COVID-19 gyda chi ar adeg y geni, rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o gael marw-enedigaeth, ac mae’n bosib bod cysylltiad â chynnydd yn nifer yr achosion o gael babi sy’n fach am y cyfnod beichiogrwydd.  Yn ogystal â hynny, canfu astudiaeth ddiweddar fod menywod beichiog sydd wedi cael prawf positif am COVID-19 ar adeg y geni’n fwy tebygol o ddatblygu cyn-eclampsia, ac yn fwy tebygol o fod angen toriad Cesaraidd brys.

Mae babanod menywod beichiog gyda symptomau COVID-19 ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu geni’n gynnar, sy’n achosi’r risg y babi o gynamseroldeb. Genedigaethau iatrogenig yw'r rhain yn bennaf (sy’n golygu bod angen esgor oherwydd effaith sylweddol COVID-19 ar iechyd a lles y fenyw a'r angen i sefydlogi mam sâl).

Beth i'w wneud os ydych chi'n feichiog

Os ydych chi'n feichiog, mae'n bwysig dilyn y cyngor ynghylch sut i osgoi dal a lledaenu COVID-19, fel golchi eich dwylo'n rheolaidd.

Os ydych chi'n feichiog ers mwy na 28 wythnos, mae'n arbennig o bwysig dilyn y cyngor hwn.

Mae angen i chi fynd i bob un o'ch sganiau a'ch apwyntiadau beichiogrwydd (cyn-geni) oni bai eich bod yn cael cyngor fel arall.

Dylech chi ystyried cael eich imiwneiddio rhag COVID-19.

Brechu rhag COVID-19 yn ystod beichiogrwydd

Am wybodaeth ynglŷn â brechu rhag COVID-19 yn ystod beichiogrwydd cliciwch yma.

Dilynwch ni: