Mae llawer o blant yn ei chael hi'n anodd cael bath neu gawod.
Gall hyn ddigwydd am nifer o wahanol resymau.
Gall y syniadau isod helpu'ch plentyn i deimlo'n fwy cyfforddus, hyderus a hamddenol, a gwneud amser bath yn haws i bawb.
Pam y gall cael Bath neu Gawod fod yn anodd:
1. Sensitifrwydd Synhwyraidd
Gall eich plentyn fod yn sensitif i’r canlynol:
- Tymheredd y dŵr (rhy boeth neu'n rhy oer)
- Teimlad neu bwysau’r dŵr ar eu croen
- Sebonau, siampŵ, neu wlanenni/cadachau yn teimlo'n annifyr
- Synau, e.e. dŵr yn llifo neu sblasio
- Goleuadau llachar yn yr ystafell ymolchi
- Arogleuon cryf o nwyddau ymolchi neu gynnyrch glanhau
Awgrymiadau i wneud Bath a Chawod yn haws:
1. Cefnogwch anghenion synhwyraidd eich plentyn
Paratowch yr ystafell ymolchi fel ei bod yn dawel a bod dim byd yn annisgwyl.
- Goleuadau
- Pylwch y goleuadau
- Defnyddiwch ganhwyllau batri neu’r golau o'r cyntedd neu landin
- Sain
- Chwaraewch gerddoriaeth sy’n tawelu’r plentyn neu sŵn gwyn
- Defnyddiwch dywelion neu fatiau i dawelu atsain
- Tymheredd
- Cadwch y dŵr ar y tymheredd sydd orau gan eich plentyn
- Gwnewch yn siŵr bod yr aer yn yr ystafell ymolchi yn gynnes ac yn gyfforddus
- Cyffyrddiad
- Gadewch i'ch plentyn ddewis sut i ymolchi (cadach, sbwng, maneg, loofah)
- Cynigiwch wahanol fathau o sebon i weld beth mae'n ei hoffi
- Dywedwch wrth eich plentyn beth rydych chi'n mynd i'w olchi a ble
- Golchwch gan ddilyn y cyfeiriad mae’r gwallt yn tyfu iddo
- Defnyddiwch dywelion y mae eich plentyn yn hoffi eu teimlad
- Sychwch gyda phwysau cadarn, os yw hyn tawelu meddwl eich plentyn
- Arogl
- Osgowch arogleuon cryf
- Gadewch i'ch plentyn ddewis arogleuon ysgafn neu hoff arogleuon
- Ymwybyddiaeth o'r Corff (Gwaith Trwm)
- Rhowch gynnig ar weithgareddau fel cario eitemau neu ddringo’r grisiau cyn ymolchi
- Defnyddiwch bwysau cadarn wrth olchi os yw hyn yn tawelu’ch plentyn
- Gadewch i'ch plentyn arllwys dŵr arno fe ei hun gan ddefnyddio jwg
- Lleoliad y Pen
- Os yw pwyso'r pen am yn ôl yn anodd, rhowch gynnig ar:
- Orwedd yn ôl yn y bath
- Eistedd gyda rhywbeth i gefnogi’r cefn
- Pwyso’r pen ymlaen
2. Lleihau Ofn a Phryder
- Dechreuwch yn Araf
- Dechreuwch trwy olchi yn y sinc
- Gadewch i'ch plentyn eistedd mewn bath gwag
- Defnyddiwch gadach gwlyb cyn ychwanegu dŵr
- Ychwanegwch fwy a mwy o ddŵr dros amser
- Defnyddio Amserydd
- Dechreuwch trwy gael bath byr a chynyddwch yr amser yn araf
- Rhannu bath
- Gall cael bath gyda rhiant neu frawd neu chwaer helpu rhai plant i deimlo'n fwy diogel
- Dilynwch drefn
- Ceisiwch gael bath neu gawod ar yr un adeg bob tro
- Defnyddiwch luniau neu amserlenni gweledol i ddangos pob cam
- Defnyddiwch rywbeth gweledol i fesur amser
- Paratowch dywelion, teganau, a dŵr yn gyntaf
3. Helpu'ch Plentyn i Deimlo Rheolaeth Dros y Sefyllfa
- Cynigiwch opsiynau (sebon, teganau, trefn ymolchi)
- Anogwch eich plentyn i ymolchi ac i sychu ei hun lle bo'n bosibl
- Defnyddiwch restr wirio gyda lluniau cam wrth gam
- Byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â chynhyrfu
4. Ceisiwch Annog
- Ceisiwch wneud bath neu gawod yn rhan o’r drefn reolaidd
- Ychwanegwch hwyl gyda theganau, swigod, caneuon neu gerddoriaeth
- Gadewch i'ch plentyn olchi doliau neu deganau yn y bath
- Defnyddiwch wobrau syml os yw'n ddefnyddiol, megis:
- Cerddoriaeth neu bodlediad
- Siartiau gwobrwyo
- Datganiadau "pan–yna" (e.e. Pan fyddi di’n lân, yna gawn ni chwarae)