Mae'r tîm oncoleg acíwt wrth law i ddarparu gwasanaeth cynghori er mwyn helpu timau derbyn cleifion i reoli argyfyngau sy'n deillio o ddiagnosis o ganser neu driniaeth amdano. Ein cylch gwaith yw helpu i reoli gofal heb ei drefnu i gleifion sy'n ymwneud â chanser, gan gynnwys cleifion sydd gyda’r canlynol:
Unrhyw gleifion sy'n dod i'n hysbytai mewn cyflwr acíwt neu unrhyw gleifion gyda diagnosis newydd neu barhaus o ganser. Mae'r rhestr uchod yn enghraifft o’r pethau gallwn ni helpu gyda nhw, ond dydy hi ddim yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd.
Mae modd i unrhyw un gyda diagnosis newydd neu barhaus o ganser gael ei atgyfeirio at y gwasanaeth gan ei weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener 08.30yb - 16.30yp
Gallwn ni helpu i sicrhau bod y claf ar y llwybr cywir a helpu gyda chyfathrebu yn yr ysbyty, boed hynny gyda'r timau oncoleg a gofal lliniarol, gyda chleifion a pherthnasau neu gyda gofal sylfaenol. Yn ogystal â hynny, ni yw’r gweithiwr allweddol i gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser heb darddiad hysbys.
Ysbyty Brenhinol Morgannwg: 01443 443443 Est 6958
Ysbyty’r Tywysog Siarl: 01685 726969
Ysbyty'r Tywysoges Cymru: 01656 753632, Ffôn 56475
E-bost: ctm_Acute_Oncology_Service@wales.nhs.uk