Mae sepsis yn gyflwr sy'n peryglu bywyd a all ddatblygu'n gyflym iawn. Mae'n ymateb difrifol i haint o fewn y corff ac mae angen triniaeth ysbyty frys arno.
Fel arfer, mae sepsis yn datblygu dros gwpl o oriau a gall fod yn anodd ei weld. Mae yna lawer o symptomau posibl o sepsis a gall rhai fod fel cyflyrau eraill, gan gynnwys y ffliw neu haint ar y frest.
Mae gwybod pa symptomau i edrych amdanynt yn bwysig.
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano unrhyw un o'r symptomau isod, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Argyfwng yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
| Babanod neu blant ifanc | Oedolion neu blant hŷn |
Gall plentyn dan 5 oed gael sepsis os:
|
Lleferydd aneglur neu ddryswch Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau Pasio dim wrin (mewn diwrnod) Diffyg anadl difrifol Teimlo eich bod chi am farw Croen brith neu liw anarferol |
Ffoniwch 111 am gyngor, os ydych chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano:
gyda thymheredd uchel neu isel iawn, yn teimlo’n boeth neu’n oer i’w gyffwrdd, neu’n crynu |