Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau pêl

Mae datblygu sgiliau pêl eich plentyn yn bwysig. Gall sgiliau pêl fod yn set gymhleth iawn o sgiliau i'w dysgu, ond bydd eich plentyn yn eu defnyddio mewn llawer o weithgareddau, gan gynnwys gwersi Addysg Gorfforol a diddordebau eraill.

Beth all fod yn anodd i blant?

Mae plant sy'n cael trafferth â sgiliau pêl angen llawer o ymarfer, felly amrywiwch y gweithgareddau rydych chi'n rhoi cynnig arnyn nhw rhag iddyn nhw ddiflasu. Efallai y bydd angen i chi wneud y gweithgaredd yn haws er mwyn iddyn nhw lwyddo.

Mae plant yn dysgu’n well pan fyddan nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnig her addas, ddim yn rhy hawdd nac yn rhy anodd.

Awgrymiadau ar gyfer magu hyder gyda sgiliau pêl

  • Dechreuwch gyda gweithgareddau lle mae'r plentyn neu'r bêl yn llonydd (statig) (er enghraifft, taflu, dal neu gicio pêl yn llonydd yn y fan a’r lle) ac yna symud at weithgareddau lle mae'r plentyn a'r bêl yn symud (driblo â phêl-droed).
  • Defnyddiwch rywbeth gwahanol i beli i'w taflu a'u dal e.e. swigod, balŵns, sgarffiau. Mae'r rhain hefyd yn symud trwy’r aer yn arafach, felly maen nhw’n haws i'w dal.
  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio peli meddal, llawn aer sy'n hawdd i’w gwasgu, e.e. pêl traeth. Dechreuwch gyda pheli mawr a bagiau ffa trwm a gweithiwch tuag at beli llai, ysgafnach.
  • Pan fyddwch chi’n defnyddio targedau, dechreuwch â rhai mawr a gweithiwch tuag at dargedau llai.
  • Dechreuwch trwy sefyll yn agos i’r targed neu’n agosach at eich gilydd, ac yna cynyddu’r pellter.
  • Dechreuwch gyda'r bêl yn symud yn araf yna dechreuwch symud y bêl yn gynt.
  • Ymarferwch am gyfnodau byr ond yn aml. Ceisiwch daflu neu rolio'r bêl 5–10 gwaith bob dydd.

Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu i ddatblygu sgiliau pêl

Dal - ymarfer cynyddol heriol

  • Rholiwch bêl rhwng dau berson.
  • Pan fydd plentyn yn aros i ddal y bêl, gofynnwch iddo rwbio dwylo er mwyn teimlo a deall y rhan o’r corff mae’n ei ddefnyddio i ddal.
  • Cyn ceisio dal, mae’n bwysig bod y dwylo’n dod yn gyfarwydd â theimlad pêl.
  • Ymarferwch ddal pêl sydd wedi ei bownsio mewn llinell syth i ddechrau. Pan fyddwch yn hyderus, anogwch eich plentyn i ymarfer trwy daflu ychydig i'r chwith neu'r dde.
  • Tynnwch sylw at unrhyw darged er mwyn annog y plentyn i ganolbwyntio, er enghraifft 'edrycha ar fy nwylo', 'edrycha ar y wal', 'edrycha ar y cylch'.

Defnyddiwch bêl chwarae fawr

  • Rholiwch y bêl, rhedwch ar ei hôl hi a'i stopio â’r ddwy law.
  • Rholiwch y bêl, rhedwch ar ei hôl hi, trowch, cyrcydwch a chodi'r bêl.
  • Rholiwch y bêl yn erbyn wal. Wrth i'r bêl adlamu’n ôl, ymarferwch symud i afael ynddi gyda'r ddwy law.

Gweithgareddau eraill

Taflu pêl neu fag ffa at darged. Cynyddwch y pellter taflu yn raddol neu leihau maint y targed (cylch, bwced ac ati)

Dilynwch ni: