Dyma ganllaw i'ch helpu i gefnogi'ch plentyn i wella ei lawysgrifen.
Cyn dechrau, sicrhewch fod eich plentyn yn eistedd yn gyfforddus:
- Traed yn wastad ar y llawr
- Bwrdd ar yr uchder cywir
- Blaen y breichiau’n gorffwys ar y bwrdd
Gwnewch yn siŵr fod y papur wedi'i osod ar yr un ochr â'r llaw y mae eich plentyn yn ysgrifennu gyda hi.
Dylai'r llaw arall ddal y papur yn llonydd a symud i lawr wrth i'ch plentyn ysgrifennu.
Beth all fod yn anodd?
Mae ysgrifennu â llaw yn defnyddio llawer o sgiliau bach. Bydd ar y plentyn angen cyhyrau ysgwyddau a bol cryf, gafael da, a rheolaeth dda o'i arddwrn a'i law i ddal a symud y bensil neu feiro.
Edrychwch ar y daflen 'sgiliau echddygol manwl' i helpu i gryfhau llaw a bysedd eich plentyn.
Awgrymiadau ar gyfer gwella llawysgrifen:
1) Gosodwch Un Nod Eglur Ar Gyfer Llawysgrifen:
Yn aml, dydy plant ddim yn deall beth mae "ysgrifennu'n daclusach" yn ei olygu.
Mae angen cyfarwyddiadau clir arnyn nhw o ran beth i’w newid.
Dewiswch un nod ar y tro, sef y peth a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ba mor ddealladwy yw’r llawysgrifen.
Enghreifftiau o nodau ar gyfer ysgrifennu â llaw:
- Gwella’r broses o ffurfio llythrennau
- Gofyn iddyn nhw ffurfio’r llythrennau tal (b, h, l) yn uwch
- Gofyn iddyn nhw ffurfio llythrennau â chynffon (p, g, y) o dan y llinell
- Sicrhau bod y llythrennau yr un maint
- Gadael bylchau rhwng geiriau
2) Dylech Ymarfer am Gyfnodau Byr ond Rheolaidd:
- Sesiynau byr sy’n gweithio orau yn amlach na pheidio
- Os oes angen, cysylltwch yr ymarfer â gwobr
Strwythur Sesiwn Ymarfer:
- Cynhesu (2-3 munud)
Gweithgareddau fel lliwio, drysfa, dot-i-ddot, neu batrymau pensil
- Ymarfer llawysgrifen (10-15 munud)
- Ymarfer y llythrennau sy'n gysylltiedig â'r nod
- Yna ymarferwch eiriau sy’n cynnwys y llythrennau hynny
- Defnyddiwch linellau dwbl i helpu i ddangos ble ddylai llythrennau fod
(llythrennau tal yn mynd uwchben, cynffonnau'n mynd islaw)
Syniadau ar gyfer gweithgareddau i helpu:
Nid dim ond â phensil neu feiro y mae modd ymarfer llawysgrifen. Meddyliwch am adnoddau hwyliog eraill i ymarfer llythrennau. Gallai hyn gynnwys:
- Defnyddio adnoddau synhwyraidd, e.e. ewyn neu dywod.
- Peintio
- Defnyddio dŵr a brwsh paent y tu allan.
- Sialc ar y llawr y tu allan.
Gwefannau defnyddiol gydag adnoddau pellach: