Mae gallu reidio beic yn sgil gyffrous i'w chael, fodd bynnag, gall y broses ddysgu fod yn brofiad brawychus i'ch plentyn yn ogystal â chi. Mae'r awgrymiadau a'r cyngor canlynol yn werth eu hystyried i helpu i wneud y profiad dysgu ychydig yn fwy llyfn.
Beth all fod yn anodd?
Gall dysgu reidio beic fod yn heriol gan fod angen llawer o wahanol sgiliau fel cydbwysedd, cydlyniad, stamina a hyder. Gall ofn cwympo neu brofiad negyddol yn y gorffennol ei gwneud hi'n anodd i rai plant reidio hefyd. Mae'n bwysig dechrau gyda chamau bach, hawdd ac ychwanegu mwy wrth i'ch plentyn fod yn barod.
Awgrymiadau gorau ar gyfer dysgu reidio beic
- Dechreuwch trwy ddysgu eich plentyn i reidio ar feic cyfarwydd ac o'r maint priodol. Os ydych chi'n ansicr pa faint sydd ei angen, bydd llawer o siopau beiciau yn rhoi cyngor da i chi.
- Prynwch ategolion diogelwch. Mae helmed feicio yn hanfodol; gall gwisgo padiau pen-glin a phenelin helpu'ch plentyn i deimlo'n llai cynhyrfus pan fydd yn cwympo i ddechrau. Dysgwch eich plentyn i fod yn annibynnol wrth wisgo a thynnu'r helmed a'r ategolion i ffwrdd.
- Gwisgwch eich plentyn mewn dillad addas a chyfforddus (e.e. dillad na fydd yn mynd yn sownd yn y pedalau na'r gadwyn) a dewis esgidiau sy'n ffitio'n ddiogel ac yn aros ar y droed.
- Mae tynnu’r pedalau allan yn dysgu sgiliau cydbwysedd ac yn helpu os yw’r plentyn yn dal i geisio codi ei draed i bedalu, fodd bynnag, gall y rhan fwyaf o ddysgwyr fynd trwy’r camau cyntaf gyda’r pedalau ynghlwm heb unrhyw broblemau.
- Gostyngwch y sedd fel bod traed eich plentyn yn gallu gorffwys yn fflat ar y llawr.
- Daliwch/cadwch eich plentyn yn sefydlog yn hytrach na'r beic. Gall gwregys symud fod yn ddarn defnyddiol o offer i'w brynu gan ei fod yn darparu pwynt dal cyson wrth wasg y plentyn. Mae hefyd yn helpu'ch plentyn i ddatblygu sgiliau “hunan-gywiro”.
- Ceisiwch beidio â defnyddio olwynion bach gan nad ydyn nhw’n dysgu cydbwysedd.
- Os ydych chi'n dal cefn y sedd neu'n rhedeg wrth ymyl y beic, byddwch yn onest os nad ydych chi'n dal gafael. Os bydd eich plentyn yn cwympo pan fydd yn meddwl eich bod chi'n ei gefnogi, gall hynny leihau ei ymddiriedaeth a'i hyder.
- Cyn i chi ddechrau rhedeg, dywedwch wrth eich plentyn y byddwch chi'n gadael iddo fynd unwaith y bydd yn edrych yn saff. Pan mae’n edrych yn saff, cyn i chi adael iddo fynd, dywedwch wrtho eto eich bod chi'n mynd i wneud hyn. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn aros yn llonydd cyn i chi ei ryddhau ac yna daliwch ati i'w gefnogi nes ei fod yn gallu gwneud y sgil yn dda yn annibynnol.
- Pan fydd eich plentyn yn dysgu beicio, bydd hefyd yn cwympo. Byddwch yn barod i gysuro, codi hwyl a gosod rhwymyn - ac o bosibl i aros am ddiwrnod arall.
Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i feicio
- Unrhyw weithgareddau sy'n gweithio ar gydbwysedd e.e cerdded ar hyd llinell, chwarae pôtsh, cerfluniau cerddorol, yoga i blant.
- Unrhyw weithgareddau sy'n gweithio ar gydlynu e.e. neidio, taflu a dal, cerdded fel anifail, cyrsiau rhwystrau.
Gwefannau defnyddiol am ragor o wybodaeth