Helpu eich plentyn i gael ei wallt wedi'i dorri
Mae'r canllaw hwn i helpu gwneud torri gwallt yn haws ac achosi llai o straen i’ch plentyn.
Beth all fod yn anodd?
Mae rhai plant yn gweld bod torri gwallt yn anghyfforddus neu'n ofidus. Gall hyn fod oherwydd:
- Teimlad brwsys, siswrn, clipwyr, neu wallt yn cwympo ar eu croen
- Tynnu ar groen y pen
- Profiadau blaenorol o boen neu anghysur
- Amgylchedd y salon (sŵn, goleuadau disglair, arogleuon cryf)
Syniadau da ar gyfer torri gwallt eich plentyn:
- Ceisiwch ddod o hyd i driniwr gwallt sy'n deall anghenion synhwyraidd.
- Os yn bosibl, torrwch wallt eich plentyn gartref, gan y gallai hyn deimlo'n fwy diogel.
- Ewch yn araf ac adeiladwch i deimladau newydd.
- Rhowch gynnig ar ddewisiadau a defnyddiwch bethau i dynnu sylw eich plentyn neu bethau mae eich plentyn yn eu mwynhau.
Cyn torri ei gwallt:
- Anogwch eich plentyn i symud ei gorff ymlaen llaw (er enghraifft, cerdded i’r lle trin gwallt).
- Gadewch i'ch plentyn wisgo bag cefn bach â phwysau (fel un gyda photeli dŵr bach) i roi pwysau cadarn ar yr ysgwyddau.
Gallwch hefyd brynu capiau trin gwallt pwysol.
- Rhowch massage pen cadarn i'ch plentyn cyn ac ar ôl torri'r gwallt, os yw’n hoffi hyn.
- Os ydych chi'n defnyddio clipwyr, gadewch i'ch plentyn eu dal yn gyntaf i deimlo'r dirgryniad, neu defnyddiwch degan sy'n dirgrynu.
- Dywedwch wrth eich plentyn pa offeryn fydd yn cael ei ddefnyddio nesaf (brwsh, siswrn, neu glipwyr).
- Cynlluniwch weithgaredd hwyliog ar ôl yr apwyntiad fel bod ganddo rywbeth i edrych ymlaen ato.
Yn ystod y torri gwallt:
- Defnyddiwch amserydd gweledol i ddangos faint o amser y bydd pob rhan yn ei gymryd.
- Defnyddiwch ddrych fel bod eich plentyn yn gallu gweld beth sy'n digwydd.
- Caniatewch seibiannau symud os oes angen.
- Defnyddiwch bethau i dynnu sylw eich plentyn (tabled, tegan, fideo).
- Defnyddiwch glustffonau gyda cherddoriaeth mae’n ei hoffi neu i leihau sŵn.
Ceisiwch wneud i'r awyrgylch fod yn dawel:
Gall salonau gwallt fod yn brysur ac yn swnllyd. Ceisiwch:
- Mynd ar adeg dawel o’r dydd.
- Gofyn i'r triniwr gwallt a oes modd iddo:
- Gostwng y goleuadau
- Diffodd cerddoriaeth gefndir
- Osgoi defnyddio sychwr gwallt