Neidio i'r prif gynnwy

Safleoedd i'ch babi chwarae ynddyn nhw 

Amser chwarae ar y bola  

Mae amser bola (cael eich babi yn gorwedd ar ei fola) yn bwysig oherwydd ei fod yn hybu cryfder pen a chorff uchaf mewn babanod.  

  • Rhowch eich babi ar ei fola gyda'i fraich flaen o dan ei frest, gan orffwys yn syth wrth ochr ei gorff. Gwnewch yn siŵr bod ei goesau'n syth y tu ôl i'w gorff, a monitro bod eich plentyn yn gwthio i fyny gyda'i freichiau ac nid yn plygu ei gefn. 

  • Efallai y byddai'n helpu i osod eich plentyn ar ei fola dros glustog bach neu dywel wedi'i rolio i fyny. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn pwyso ar ei freichiau wrth orwedd dros y tywel neu'r glustog. 

  • Anogwch eich babi i edrych i fyny at degan neu arnoch chi.  

  • Gall canu i'ch babi helpu i dynnu ei sylw a'i annog i aros ar ei stumog am hirach. Os nad yw eich babi yn hapus yn y safle hwn, ceisiwch ei rhoi i orwedd ar ei stumog ar eich brest. 

Gorwedd ar ei gefn 

Mae'r safle hwn yn rhoi cyfle i'r plentyn edrych ar beth sy'n digwydd o'i gwmpas, ac mae'n ffordd arall o'i helpu i ddysgu sut i ddod â'i ddwylo neu deganau i ganol ei gorff a'i geg i chwarae.  

  • Gorwedd ar y llawr neu flanced: Rhowch eich plentyn o dan mobil, penliniwch dros y plentyn a siaradwch ag ef, ysgwydwch deganau neu daliwch deganau uwch ei ben. Anogwch symudiad ei freichiau'n ysgafn tuag at ei frest neu ei geg.  

  • Ar eich pen-gliniau: Eisteddwch gyda'ch pengliniau wedi'u plygu a'ch traed yn wastad ar y llawr. Rhowch y plentyn ar eich cluniau (ar ei gefn) fel ei fod yn eich wynebu. 

  • Cefnogaeth croes-goes: Eisteddwch ar gadair gydag un goes wedi’i phlygu mewn siâp rhif pedwar. Rhowch eich plentyn ar ei gefn yn eich glin, fel bod ei ben yn cael ei gynnal ar  ben-glin eich coes wedi'i phlygu.  

Gorwedd ar ddwy ochr ei gorff 

  • Mae'r safle hwn yn caniatáu i'ch plentyn chwarae gyda teganau gyda'r ddwy ochr o'i gorff. Mae hyn yn helpu dwy ochr ei gorff i ddatblygu'n gyfartal ac yn ei gefnogi i aros ar ei ochr. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymarfer hyn ar y ddwy ochr, fel bod eich plentyn yn gallu defnyddio ei fraich dde a'i fraich chwith.  

  • Rhowch dywel wedi'i rolio y tu ôl i gefn eich plentyn i'w atal rhag rholio yn ôl.  

  • Sicrhewch fod pen eich plentyn yn unol â'i gorff.  

  • Anogwch chwarae yn y safle hwn gyda theganau neu fynd ar y llawr a rhyngweithio â'ch plentyn.  

 

 

 

Dilynwch ni: