Neidio i'r prif gynnwy

Eistedd i chwarae

Eistedd i fabanod 

Bydd y safle hwn yn helpu eich plentyn i ddysgu sut i ddal ei ben i fyny, a rhoi mwy o gyfleoedd iddo archwilio ei amgylchoedd trwy edrych o gwmpas a defnyddio ei ddwylo i symud a chodi gwrthrychau.  

  • Gwnewch yn siŵr bod pen eich babi yn unol â'i gorff, oherwydd gall ei droi gormod ei gwneud hi'n anoddach iddo anadlu. 

  • Eistedd ar eich glin: Eisteddwch eich plentyn ar eich glin yn wynebu allan. Defnyddiwch eich corff i'w cynnal a rhowch eich dwylo o amgylch ei frest i'w helpu i aros yn unionsyth. 

  • Seddi babanod: Gadewch i'ch babi eistedd ac edrych o gwmpas gan ddefnyddio cadair uchel neu ei fygi. Gallwch ddefnyddio tywel wedi'i rolio i helpu i gadw ei gorff yn syth a dod â'i ddwylo i'r canol. Unwaith y gall y babi ddal ei ben i fyny'n dda, gallwch hefyd ddefnyddio sedd Bumbo neu rywbeth tebyg. 

Eistedd ac ymestyn 

Mae eistedd ac ymestyn i ffwrdd o'r corff yn helpu i wella cydbwysedd eistedd eich plentyn  

  • Eisteddwch eich plentyn ar y llawr. Os oes angen help arno o hyd i aros yn unionsyth, eisteddwch y tu ôl i’ch plentyn a chefnogwch ran uchaf ei gorff. Rhowch neu daliwch deganau i'r ochr fel gall estyn amdanyn nhw. 

  • Wrth i eistedd y babi wella, anogwch ef i droi ei gorff i estyn am deganau y tu ôl iddo, uwch ei ben, neu o’’i flaen. Mae hefyd yn ddefnyddiol ymarfer estyn ar draws ei gorff gyda'r llaw sydd bellaf o'r tegan. 

Eistedd ar yr ochr  

Mae eistedd ar yr ochr yn helpu'ch plentyn i ddysgu troi a rheoli ei gorff. Mae angen hyn ar gyfer cropian a cherdded. 

• Trowch un o goesau eich plentyn yn ysgafn fel bod y ddau ben-glin yn pwyntio i'r un ochr. 

• Gyda llaw eich plentyn ar yr ochr honno yn ei gynnal, helpwch i estyn ymlaen ac ar draws ei gorff. 

• Pan fydd eich plentyn yn barod, symudwch ymlaen i gael y ddwy law ar y llawr ar yr un ochr. 

Eistedd wrth y bwrdd 

Y safle eistedd gorau wrth fwrdd neu ddesg 

  • Dylai'r traed fod yn wastad ar arwyneb, gyda'r cluniau a'r pengliniau wedi'u plygu tua 90 gradd. 

  • Dylai ei gefn orffwys yn erbyn cefn y gadair i gael cefnogaeth. 

  • Dylai eu freichiau orffwys yn gyfforddus ar y bwrdd, yn ddelfrydol gyda'r bwrdd tua 2 fodfedd uwchben ei benelinoedd plygedig. 

Ffyrdd i helpu'ch plentyn eistedd yn dda wrth y bwrdd 

Os nad yw traed eich plentyn yn cyrraedd y llawr, gallwch roi rhywbeth iddo orffwys ei draed arno, fel: 

  • Troedfainc fasnachol 

  • Stôl toiled i blant 

  • Blociau yoga 

Mae'r rhain yn helpu i'w gadw'n sefydlog ac yn gyfforddus. 

Chwarae mewn seddi arbenigol 

Os yw eich plentyn wedi cael cadair arbenigol gan ei Therapydd Galwedigaethol (OT), mae'n ddefnyddiol ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau eistedd a chyrraedd, fel y rhai sy’n cael eu disgrifio uchod. Mae hyn yn cefnogi ei ystum ac yn helpu ei ddatblygiad.  

 

 

 

Dilynwch ni: