Dyma daflen gyngor i'ch helpu i gefnogi'ch plentyn i frwsio gwallt.
Pam y gall Brwsio Gwallt fod yn anodd:
Bydd brwsio gwallt yn gwneud rhai plant yn anghyfforddus neu'n ofidus. Gall hyn fod oherwydd:
- Teimlad y brwsh
- Tynnu ar groen y pen
- Profiad blaenorol o boen neu glymau yn y gwallt
- Yr amgylchedd (sŵn, goleuadau, arogleuon)
Gall y teimladau hyn deimlo'n gryfach o lawer i rai plant. Gall mynd yn araf bach, cynnig dewisiadau, a pheidio â chynhyrfu fod yn gymorth mawr.
Awgrymiadau ar gyfer Brwsio Gwallt
Cyn Brwsio:
Meddyliwch am yr amgylchedd
Gall eich plentyn fod yn sensitif i:
- Sŵn (teledu, cerddoriaeth, pobl yn siarad)
- Goleuadau llachar
- Teimlad brwsys neu gynnyrch gwallt
- Arogleuon cryf
Ceisiwch greu lle tawel a chyfforddus.
Defnyddiwch bwysau cadarn neu dylino
- Gall pwyso’n ofalus ond cadarn ar yr ysgwyddau, y pen neu groen y pen helpu
- Gall hyn wneud iddi deimlo’n haws i frwsio
- Peidiwch â gwneud hyn os nad yw eich plentyn yn fodlon i chi wneud
- Gallwch wneud hyn ar adegau eraill hefyd, nid dim ond cyn brwsio
Dewiswch y brwsh iawn
- Gwallt tenau neu syth: defnyddiwch frwsh meddal
- Gwallt trwchus, tonnog neu gyrliog: defnyddiwch frwsh datod clymau gwallt neu grib â dannedd llydan
- Gadewch i'ch plentyn helpu i ddewis y brwsh os yn bosibl
Brwsiwch yn rheolaidd
- Mae brwsio bob dydd yn helpu i atal clymau
- Gallwch frwsio yn gyflymwch a bydd yn llai anghyfforddus o wneud hynny
Wrth Frwsio
Dechreuwch gyda gwallt llaith
- Chwistrellwch ychydig o ddŵr neu gyflyrydd (conditioner) y gallwch ei adael yn y gwallt
- Mae gwallt llaith yn haws i'w frwsio ac yn tynnu llai ar y croen
Brwsiwch ddarnau bach ar y tro
- Gweithiwch ar un rhan fach ar y tro
- Bydd hyn yn arwain at lai o dynnu ac yn helpu'ch plentyn i deimlo mwy o reolaeth
Brwsiwch o'r gwaelod tua’r corun
- Dechreuwch ar waelod y gwallt a symudwch i fyny yn araf
- Daliwch y gwallt ger y gwreiddiau er mwyn tynnu llai ar y croen
- Gadewch i'ch plentyn geisio brwsio ei hun os yw’n gallu
Defnyddiwch gynnyrch datod clymau os oes angen
- Mae'r cynnyrch yma yn helpu i ddatod clymau a lleihau’r tynnu
Ceisiwch gael hwyl
- Chwaraewch ei hoff gerddoriaeth neu fideo byr
- Ymarferwch frwsio gwallt doliau neu oedolion
- Defnyddiwch ganmoliaeth neu wobrau bach
- Ceisiwch gynnwys brwsio yn rhan o drefn ddyddiol y mae eich plentyn yn ei mwynhau
Rhowch gynnig ar eistedd neu sefyll mewn osgo gwahanol
- Gall plant deimlo’n fwy diogel yn eistedd gyda’u traed ar y llawr
- Gallai plant sydd angen symud deimlo’n well yn sefyll
- Gall defnyddio drych helpu hefyd.