Mae Elusen GIG CTM yn helpu i wneud pethau’n well i gleifion, teuluoedd a staff y GIG ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae pob punt a roddir yn aros yn lleol ac yn helpu i ariannu gwelliannau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallai hyn gynnwys creu mannau croesawgar, prynu offer ychwanegol, neu ddarparu cymorth sy’n helpu pobl i deimlo’n dawelach ac yn fwy cyfforddus yn yr ysbyty.
Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud i bethau da ddigwydd.