Neidio i'r prif gynnwy

Eich Tîm Gofal Sylfaenol Lleol

Mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar agor ac ar gael i’ch helpu os byddwch chi’n teimlo’n dost. Fodd bynnag, efallai y bydd gwasanaethau’n edrych ychydig bach yn wahanol ar hyn o bryd. 

Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gorfod addasu sut rydyn ni’n darparu gofal iechyd, ond mae eich gwasanaethau iechyd lleol ar gael i chi serch hynny ac yn barod i’ch helpu. 

Os ydych chi’n teimlo’n dost, mae help wrth law; bydd tîm eang o weithwyr iechyd proffesiynol ar gael i’ch helpu. Yn eu plith y mae Ffisiotherapyddion, Cydlynwyr Lles, Fferyllwyr Cymunedol, Therapyddion Galwedigaethol, Deintyddion, Uwch-ymarferwyr Nyrsio a Swyddogion Cymorth Meddygon Teulu.  

Gallwch chi ddefnyddio gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol. 

  • Ar gyfer mân anhwylderau fel annwyd, ewch i weld eich Fferyllydd. 

  • Ar gyfer cyflyrau ar y llygaid, ewch i weld eich Optegydd. 

  • Ewch i weld eich deintydd os oes crawniad yn eich dant neu ddannoedd. 

  • Gwnewch apwyntiad yn eich meddygfa a bydd staff y dderbynfa neu’r Llywiwr Gofal yn trefnu amser i chi gyda naill ai’r meddyg teulu, Nyrs neu staff eraill y feddygfa, yn ddibynnol ar y gofal sydd ei angen arnoch chi. 

Ymhlith y gwasanaethau eraill sydd ar gael y mae: 

Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth sydd fwyaf priodol i chi, fe fyddwch chi’n derbyn y driniaeth gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf priodol. 

Mae’r ymgyrch #EichTîmLleol yn tynnu sylw at yr ystod o weithwyr proffesiynol a all helpu cleifion, heb angen i chi fynd i weld y meddyg yn gyntaf.  

Cymorth Iechyd Meddwl a Lles 
Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom ni, ac mae llawer o bobl yn pryderu am eu hiechyd meddwl a’u lles.  Mae cymorth ar gael i chi ar ein hyb lles

Syrjeris Meddygon Teulu
Fferyllfeydd
Deintyddion
Optegwyr
Cwestiynau Cyffredin

Dod o hyd i'ch gwasanaeth GIG lleol

Dilynwch ni: