Dyma wybodaeth i’ch helpu i gefnogi'ch plentyn i ddatblygu sgiliau echddygol manwl, neu ‘fine motor skills’ yn Saesneg.
Sgiliau echddygol manwl yw'r symudiadau bychain rydyn ni'n eu gwneud gyda'n dwylo a'n bysedd.
Maen nhw’n bwysig oherwydd ein bod yn defnyddio ein dwylo bob dydd i wneud tasgau ymarferol.
Beth All Fod yn Anodd?
Mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd rheoli a chydlynu symudiadau eu dwylo.
Gall hyn wneud gweithgareddau bob dydd yn anoddach, gan gynnwys:
- Gwisgo - cau botymau neu ddefnyddio sip
- Defnyddio cyllyll a ffyrc - dal a defnyddio cyllell a fforc
- Llawysgrifen - dal pensil yn iawn i ysgrifennu
- Defnyddio'r ddwy law gyda'i gilydd - er enghraifft, dal papur gydag un llaw ac ysgrifennu gyda'r llall
Gweithgareddau i Helpu i Ddatblygu Sgiliau Echddygol Manwl
Gall helpu i wneud tasgau o gwmpas y tŷ helpu i wella sgiliau echddygol manwl. Er enghraifft, helpu i goginio neu lanhau.
Gall llawer o gemau a chrefftau helpu hefyd.
Magu Cryfder Llaw
- Chwarae gyda thoes
- Codi pethau bach gyda gefel (tweezers) neu begiau dillad
- Adeiladu gyda theganau adeiladu
I Helpu i Symud Gwrthrychau yn y Llaw
- Codi a fflipio arian mân
- Rhoi arian mân mewn cadw-mi-gei
- Rhoi gleiniau ar edafedd
I Helpu i Ddefnyddio Bysedd Unigol
- Tynnu llun gydag un bys mewn ewyn eillio neu dywod
- Canu caneuon gyda symudiadau (er enghraifft Un Bys, Dau Fys, Tri Bys yn Dawnsio)
- Chwarae gyda swigod
I Wella Cyd-symudedd Llaw a Llygad
- Teganau adeiladu i helpu gydag estyn a gafael
- Gweithgareddau dot‑i‑ddot
- Gwneud siapiau gyda ffyn coed neu ffyn bach pigo dannedd
- Arlunio gan ddefnyddio gwahanol offer (creonau, pensiliau, sialc)
Helpu i Ddefnyddio'r Ddwy Law Gyda'i Gilydd
- Troi neu ddadsgriwio jariau neu gaeadau
- Chwarae gyda thoes neu glai (rholio a phinsio)
- Tynnu lluniau ar fwrdd du neu bapur wal
- Gweithgareddau ag edafedd (botymau, pasta, gleiniau)
I Ddatblygu Gafael â’r Bys a Bawd
- Gwneud gemwaith gyda botymau, pasta, neu leiniau
- Pinsio toes ar hyd siâp wedi'i rolio
- Codi sticeri a'u gludo ar luniau
I Ddatblygu Gafael â Thri Bys
(Bawd, bys cyntaf a bys canol)
- Chwarae gemau â gefel (tweezers)
- Defnyddio pegiau dillad
- Peintio gyda brwsys paent trwchus neu sialc