Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg ac Orthoteg

Podiatryddion yw'r arbenigwyr ar drin amrywiaeth o gyflyrau ar y traed a rhan isaf y goes sy'n achosi poen a dioddefaint ac sy'n achosi problemau symunedd. O boen traed a ffêr gyhyr-ysgerbydol, gan gynnwys problemau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau chwaraeon, i broblemau ar y croen fel cyrn, ewinedd sydd wedi tyfu ar i mewn a chyflyrau ar y traed a rhan isaf y goes sy'n gysylltiedig â chyflyrau meddygol eraill.

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio i drin problemau ar y traed, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau cyhyr-ysgerbydol
  • Gwasanaethau traed diabetig, gan gynnwys asesu a rheoli wlserau traed
  • Addysg a hybu iechyd y troed
  • Amddiffyn traed i gleifion sy'n wynebu risg uchel o golli coes
  • Llawfeddygaeth i dynnu ewin yn gyfan gwbl
  • Dermatoleg

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae podiatryddion yn gweithio gyda phobl o bob oed ac yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i gadw eu gallu i symud ac aros yn annibynnol.

Mae'r gwasanaeth hwn yn agored i drigolion Cwm Taf Morgannwg sydd â phroblemau ar y traed a rhan isaf y goes sy'n effeithio ar eu hiechyd neu eu gallu i symud.

Mae pob achos yn cael ei asesu yn unigol ac, os oes angen triniaeth, bydd cynllun triniaeth y cytunwyd arno yn cael ei roi ar waith fydd yn adlewyrchu beth sy'n bwysig i'r claf.

Dydy'r gwasanaeth hwn ddim yn darparu gofal ewinedd cymdeithasol yn unol â darpariaeth Cymru Gyfan. Mae Age Connect Morgannwg yn darparu gwasanaeth torri ewinedd ar draws ardaloedd Rhondda Taf Elái, Merthyr a Chynon a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae dolen isod, neu fel arall gallwch ffonio 01443 490650 .

Ewinedd yn syml - Gwasanaethau torri ewinedd i bobl hŷn (ageconnectsmorgannwg.org.uk)

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

I gael asesiad gyda podiatrydd, bydd angen atgyfeiriad arnoch gan eich meddyg teulu, nyrs y practis neu ymwelydd iechyd.

Oriau Agor
9:00 am i 4:30 pm

Mae'r rhifau cyswllt yn aros yr un fath ac mae podiatryddion ar gael yn ystod oriau agor i roi cyngor i chi am drin eich problemau ar y traed eich hun, lle mae'n ddiogel gwneud hynny.
Cysylltwch â nhw ar 0300 300 0024

Beth i'w Ddisgwyl

Bydd y podiatrydd yn asesu iechyd eich traed a rhan isaf y goes. Os bydd unrhyw broblemau yn cael eu canfod, bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi a bydd eich podiatrydd yn egluro sut y gallai'r rhain effeithio ar eich iechyd neu'ch gallu i symud yn y dyfodol.

Bydd eich podiatrydd yn gweithio gyda chi wrth i chi wneud dewisiadau ynghylch sut y byddwch chi'n rheoli'r risgiau hyn, cyn i chi gytuno ar gynllun i reoli'ch cyflwr; gall hyn gynnwys gwneud newidiadau i'ch arferion ffordd o fyw.

Os yw'ch cyflwr yn annhebygol o effeithio ar eich iechyd neu eich gallu i symud, efallai na fydd hawl gyda chi i gael triniaeth y GIG.

Cysylltwch â Ni
Adran Podiatreg ac Orthoteg
Ffôn: 01443 443003 neu 443005

Podiatreg Gyhyrysgerbydol
Orthoteg
Llawfeddygaeth Ewinedd
Gwasanaeth Diabetes a Thraed Risg Uchel
Dilynwch ni: