Neidio i'r prif gynnwy

Golchi gwallt

Mae llawer o blant yn ei chael hi'n anodd golchi gwallt. Yn aml, y rheswm am hyn yw’r amrywiaeth o wahanol deimladau sy’n digwydd ar yr un pryd. Gall y syniadau hyn helpu i wneud golchi gwallt yn brofiad tawelach ac yn haws i chi a'ch plentyn.

Pam y gall Golchi Gwallt fod yn anodd:

Gall golchi gwallt fod yn ormod i rai plant oherwydd:

  • Sgwrio croen y pen
  • Arogleuon y siampŵ neu’r cyflyrydd (conditioner)
  • Dŵr yn llifo dros yr wyneb
  • Dŵr yn mynd i'r llygaid neu'r clustiau
  • Goleuadau llachar ac atsain yn yr ystafell ymolchi
  • Pwyso'r pen am yn ôl, sy'n gallu teimlo'n anniogel

Mae'r pen a chroen y pen yn sensitif iawn. I rai plant, gall y teimladau hyn achosi pryder, gofid neu wneud iddyn nhw wrthod golchi eu gwallt.

Awgrymiadau i Wneud Golchi Gwallt yn Haws:

1) Cyn Golchi Gwallt

Paratowch ystafell ymolchi dawel

  • Pylwch y golau neu defnyddiwch olau nos
  • Tawelwch yr atsain gyda thywelion neu matiau bath
  • Gwnewch yn siŵr fod yr ystafell a'r dŵr yn gynnes

Siaradwch â'ch plentyn

  • Gofynnwch beth nad yw’n ei hoffi am olchi gwallt
  • Gwnewch newidiadau lle bo modd
  • Defnyddiwch luniau neu stori syml i egluro'r camau

Chwarae bach neu esgus

  • Gallwch ymarfer golchi gwallt ar ddoliau, teganau neu anifeiliaid
  • Bydd hyn yn helpu'ch plentyn i wybod beth i'w ddisgwyl

Gwnewch bethau sy’n tawelu yn gyntaf

  • Cwtsh neu bwysau cadarn
  • Cario eitemau neu weithgareddau gwthio/tynnu
  • Gall hyn helpu'ch plentyn i deimlo’n fwy tawel ei feddwl cyn dechrau

2) Yn ystod y golchi

Arogl

  • Defnyddiwch gynnyrch heb arogl neu bersawr mae eich plentyn yn ei hoffi

Cyffwrdd y pen

  • Dechreuwch trwy olchi gwaelod y gwallt
  • Symudwch tuag at groen y pen yn raddol
  • Defnyddiwch bwysau cadarn yn hytrach na chyffyrddiad ysgafn
  • Gadewch i'ch plentyn helpu i roi’r siampŵ

Opsiynau rinsio

Rhowch gynnig ar wahanol ffyrdd o rinsio a gweld beth sy'n gweithio orau:

  • Jwg neu botel
  • Gwasgu cadach gwlyb dros y pen
  • Dŵr o ben cawod yn llifo’n ysgafn dros y pen

Dŵr ar yr wyneb

  • Defnyddiwch gogls, feisor, neu gap cawod
  • Cadwch dywel sych wrth law
  • Gadewch i'ch plentyn orchuddio ei wyneb

Dŵr yn y clustiau

  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio plygiau clust os gall eich plentyn eu goddef

Os yw pwyso'r pen am yn ôl yn anodd

  • Pwyswch y pen ymlaen yn lle hynny
  • Rinsiwch y gwallt dros ymyl y bath
  • Cadwch y pen yn unionsyth gyda gogls neu feisor
  • Gadewch i'ch plentyn rinsio ei wallt ei hun

Helpu'ch Plentyn i Deimlo Rheolaeth Dros y Sefyllfa

  • Defnyddiwch ddrych er mwyn i’ch plentyn weld beth sy'n digwydd
  • Gadewch i'ch plentyn wneud rhywfaint o'r dasg ei hun
  • Cynigwch ddewisiadau lle bo'n bosibl
  • Helpwch trwy roi eich llaw chi ar ben llaw eich plentyn os oes angen
  • Golchwch ei wallt ar yr un adeg ac yn yr un drefn bob tro

Gall defnyddio lluniau, amseryddion, neu gân golchi helpu'ch plentyn i ddeall beth fydd yn digwydd a pha mor hir y bydd y broses yn para.

Os yw Golchi Gwallt yn peri Gofid Mawr

  • Peidiwch â golchi gwallt mor aml
  • Defnyddiwch gynnyrch dau mewn un
  • Rhowch gynnig ar siampŵ sych neu siampŵ sydd ddim angen ei olchi allan

Mae lleihau straen yn bwysicach na golchi’n berffaith.

Gwefannau defnyddiol gydag adnoddau pellach:

Dilynwch ni: