Neidio i'r prif gynnwy

Eich Adferiad Ar ôl Bod yn yr Ysbyty ar gyfer Oedolion Hŷn

Dull Cartref yn Gyntaf 

Dim ond pan fo angen clinigol na ellir ei ddiwallu yn yr ysbyty y dylai pobl aros yn yr ysbyty, a dylai'r person ddychwelyd adref, neu i leoliad cymunedol priodol, cyn gynted â phosibl.  

Mae'n annhebygol y bydd gohirio rhyddhau o'r ysbyty yn gwella galluoedd corfforol neu feddyliol. Mewn gwirionedd gall waethygu canlyniadau, ac mae'n methu â chydnabod y gall pobl barhau â'u hadferiad gartref. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl hŷn, a all ddod yn fwy datgyflyredig a dibynnol ar eraill o ganlyniad i arhosiad yn yr ysbyty. 

Dylai pawb gael eu cefnogi i wella yn eu cartref eu hunain neu yn eu cymuned. Bydd y cyngor a'r adnoddau yn y llyfryn hwn yn helpu i gefnogi eich adferiad parhaus ar ôl i chi adael yr ysbyty.  

- Polisi Rhyddhau Integredig CTM 2024 

Dilynwch ni: