Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddio a Brechlynnau

nyrs yn rhoi plaster ymlaen

Mae brechu yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain, a’n gilydd rhag iechyd gwael, ac i’n cadw ni i fyw yn iach.

Mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein himiwneiddio’n llawn i’n hamddiffyn rhag clefydau a allai fod yn ddifrifol, ac i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant.

Defnyddiwch y tudalennau hyn i ddysgu mwy am gael eich brechu ac imiwneiddiadau ar gyfer pob grŵp oedran.

Ymgyrch Brechu Covid y Gwanwyn

Daeth ymgyrch COVID-19 y Gwanwyn i ben ar 30 Mehefin 2025. Bydd ymgyrch COVID-19 yr Hydref / y Gaeaf yn dechrau ar 1 Hydref 2025.

Bydd gwybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechiad yn cael ei rhannu'n agosach at ddyddiad cychwyn ymgyrch yr hydref / y gaeaf.

Mae’r llinell ffôn trefnu apwyntiad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb – 5yp: 01685 726464 neu anfonwch e-bost at:  ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk

Dilynwch ni: