Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu sut i ddefnyddio cyllyll a fforc

Mae dysgu sut i ddefnyddio cyllell, fforc, a llwy yn sgil sy'n cael ei dysgu'n raddol. Yn gyntaf, bydd plant yn ceisio gafael mewn llwy wrth gael eu bwydo, yna'n dechrau dod â'r llwy i'w ceg. Yna bydd plant yn dechrau defnyddio fforc. Gyda ymarfer, byddan nhw’n gwella eu gallu i ddefnyddio llwy a fforc. 

Beth allai fod yn anodd iddyn nhw? 

Mae defnyddio cyllell a fforc yn gofyn am ddefnyddio'r ddwy law gyda'i gilydd, cryfder dwylo a sgiliau cydgysylltu. Mae angen i blant allu agor a chau eu llaw a symud eu bysedd a'u bawd ar wahân neu gyda'i gilydd. 

Awgrymiadau gorau ar gyfer datblygu sgiliau cyllell a fforc 

  • Dangoswch i'ch plentyn - gwnewch y dasg ochr yn ochr â'ch plentyn. Bydd plant yn aml yn adlewyrchu oedolion neu frodyr a chwiorydd hŷn. 

  • Dywedwch wrth eich plentyn beth mae angen iddo ei wneud - siaradwch â'ch plentyn drwy bob cam o'r broses.  

  • Meddyliwch am y bwydydd rydych chi'n gofyn iddyn nhw ddefnyddio cyllyll a fforc ar eu cyfer. Er enghraifft, mae'n haws torri banana na darn o gig.  

  • Ceisiwch leihau ymyriadau, e.e. teledu, iPad neu deganau. 

  • Mae safle eistedd dda yn bwysig. Mae plentyn yn fwy abl i ddefnyddio ei ddwylo’n rhydd i fwydo os yw’n cael ei gefnogi’n dda acyn eistedd. Er enghraifft, eistedd gyda'i ben-ôl yn ôl yn y gadair, gyda’r traed ar step, neu bwyso ar y soffa/wal os yw’n eistedd ar y llawr. 

  • Ymarferwch a Rhowch ganmoliaeth! Rhowch gyfle i’ch plentyn ymarfer bob dydd a gwnewch iddo deimlo’n dda am geisio.  

Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu i ddatblygu sgiliau cyllell a fforc 

  • Chwaraewch rasys ŵy ar lwy 

  • Ymarferwch ddefnyddio'r llwy yn ystod gweithgareddau amser chwarae. Er enghraifft, yn yr ardaloedd chwarae tywod neu ddŵr defnyddiwch lwyau, cwpanau, rhawiau, cribiniau, lletwadau i dywallt a sgwpio. 

  • Torwch ffrwythau Velcro neu does chwarae. 

  • Cynhwyswch eich plentyn wrth baratoi bwyd fel torri llysiau. 

Gwefan ddefnyddiol am adnoddau pellach: 

BBC Bitesize: Torri a sleisio'n ddiogel  

 

Dilynwch ni: