Nod y cyngor hwn yw eich helpu chi i gefnogi eich plentyn i ddysgu sut i weipio ei ben ôl ar ôl mynd i'r tŷ bach.
Beth all fod yn anodd?
Wrth ddysgu'r sgil hon, efallai y bydd plant yn profi anawsterau gyda:
- Gallu cydbwyso ar y tŷ bach tra'n sychu.
- Gallu cydlynu symudiadau eu corff i gyrraedd a sychu.
- Gwybod ble mae rhannau gwahanol o'u corff a theimlo ble mae angen iddyn nhw sychu heb allu gweld.
Awgrymiadau gorau ar gyfer weipio’r pen ôl
- Gwiriwch nad yw eich plentyn yn rhwym fel y gall fynd i’r tŷ bach yn rhwydd.
- Sefydlwch batrwm rheolaidd pan fydd gan eich plentyn amser i sychu a pan nad yw ar frys.
- Mae angen ymarfer y broses sychu ac mae angen i'ch plentyn allu teimlo'n sefydlog wrth geisio gwneud hynny, er enghraifft, cynnal ei draed wrth eistedd ar y tŷ bach, pwyso yn erbyn y wal, dal rheilen gadarn, penlinio ar y llawr.
- Gall weipiau gwlyb fod yn haws i'w defnyddio ac mae arogl braf gyda nhw. Os dewiswch eu defnyddio, ceisiwch eu cadw i'r lleiafswm a'u rhoi yn y bin bob amser - nid yn y tŷ bach - gan y gall pob weip wlyb gael effaith ar yr amgylchedd.
- Gall papur tŷ bach ychydig yn fwy trwchus fod yn haws i'w drin.
- Mae'r bath neu'r cawod yn lle da i ymarfer gyda cadach.
- Canmolwch eich plentyn am roi cynnig arni hyd yn oed os nad ydy e’n llwyddiannus y tro hwn.
- Defnyddiwch siart gwobr/seren.
- Rhedwch y dŵr yn y sinc fel gall eich plentyn olchi ei ddwylo ar unwaith.
Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu
- Chwaraewch “Hel y gwrthrych” lle mae’r plentyn yn eistedd ar y llawr ac yn teimlo am wrthrychau y tu ôl iddo ar y llawr heb edrych/lygaid ar gau os yn bosibl. (Gosodwch un gwrthrych ar y tro). Gwnewch y gêm yn fwy heriol drwy ofyn i’ch plentyn adnabod beth mae wedi'i ganfod drwy gyffwrdd yn unig.
- Rhowch dâp gludiog neu begiau ar ei ddillad ger gwaelod ei asgwrn cefn i estyn amdanyn nhw.
- Ymarferwch weipio smotiau o baent oddi ar blât gan ddefnyddio papur cegin (gallai hyn fod yn rhan o weithgaredd celf) i atgyfnerthu symudiad a phwysau ‘weipio’ gan ddefnyddio hances bapur ar arwyneb gwlyb neu ludiog. Gellir gwneud hyn hefyd gydag eitemau bwyd fel weipio blob o jam gyda bara neu weddill y cawl mewn bowlen gyda bara.
- Pasiwch wrthrych fel bag ffa, tegan meddal bach neu sgarff o amgylch y corff ar lefel y wasg, yn gyntaf i un cyfeiriad yna'r llall. Os yw’r plentynyn llwyddo i wneud hyn heb i'r gwrthrych gael ei ollwng a gyda chyflymder rhesymol, ewch ymlaen i basio'r gwrthrych o gwmpas a rhwng y coesau mewn ffigur o wyth. Gellir gwneud hyn naill ai'n sefyll neu'n eistedd ar ymyl cadair neu fainc isel.
Gwefan ddefnyddiol am ragor o adnoddau:
Eric Education and Resources for Improving Childhood
Kandoo ‘Teach kids how to wipe’
Bladder and Bowel UK