Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu sut i wisgo

Mae gwisgo a dadwisgo yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Mae gwisgo yn sgil sy'n cael ei dysgu'n raddol. Mae babanod a phlant yn tueddu i ddechrau trwy ddysgu estyn braich neu goes allan i chi roi crys neu drowsus arnyn nhw. Yna maen nhw'n dysgu sut i dynnu esgidiau, sanau a hetiau, cyn dysgu sut i dynnu eitemau eraill o ddillad.fel trowsus. Nesaf, gallan nhw ddechrau dysgu sut i helpu i wisgo dillad.

Beth all fod yn anodd i blant wrth wisgo?

Mae gwisgo yn gofyn am lawer o gamau bach. Mae'n rhaid i blant allu cydbwyso i wisgo dillad, adnabod i ba gyfeiriad y mae eitemau'n mynd, cofio dilyniant eitemau a gallu tynnu a gwthio pethau i'r cyfeiriad cywir i'w gwisgo. 

Awgrymiadau gorau ar gyfer gwisgo

  • Gall rhuthro i gyrraedd yr ysgol yn y bore fod yn amser anodd i ymarfer sgiliau gwisgo. Rhowch gynnig arni ar benwythnosau neu wyliau ysgol pan fydd mwy o amser i ymarfer. 
  • Siaradwch am beth rydych chi'n ei wneud gan ddefnyddio iaith syml i atgyfnerthu'r camau i’w cymryd. Er enghraifft, ‘nesaf rydym yn gwisgo sanau’. 
  • Ceisiwch farcio cefn neu flaen eitemau dillad, neu defnyddiwch ddillad sydd â logo clir. Defnyddiwch gwestiynau i helpu eich plentyn i nodi beth yw'r cefn a'r blaen, a beth sydd y tu mewn a'r tu allan. Er enghraifft, ‘alli di deimlo’r sêm?, sydd ar y tu mewn.’, ‘alli di ddod o hyd i’r logo?, sy’n mynd ar y blaen’. 
  • Anogwch eich plentyn i eistedd i lawr wrth wisgo dillad, yn enwedig sanau, neu wrth roi trowsus dros ei draed; fel yna fydd e ddim yn canolbwyntio ar gadw ei gydbwysedd. 
  • Defnyddiwch ddillad sydd ychydig yn fwy fel eu bod yn haws i'w tynnu a'u gwisgo. 

Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu gyda dysgu sut i wisgo

  • Mae cymhelliant yn allweddol i ddysgu. Dewch o hyd i weithgaredd y mae eich plentyn yn ei fwynhau ac y mae'n rhaid iddo newid ar ei gyfer. Gallai hyn fod yn weithgaredd chwaraeon neu'n chwarae gwisgo i fyny.
  • Gall chwarae gwisgo i fyny gyda thedis a doliau helpu plant i ddysgu trefn gwisgo dillad a pha ffordd maen nhw'n mynd. 
  • Gellir ymgorffori sgiliau gwisgo mewn gemau, fel ‘Mae Simon yn dweud’ neu mewn cyrsiau rhwystrau lle mae’n rhaid i chi wisgo eitemau gwirion. 

Gwefannau defnyddiol gyda mwy o adnoddau: 

NHS Greater Glasgow and Clyde KIDS site: Kids Independently Developing Skills

CBeebies Parenting: Getting ready for the day:

 

Dilynwch ni: