Neidio i'r prif gynnwy

Patholeg

Beth yw Patholeg?

Mae patholeg yn gangen o wyddoniaeth feddygol sy'n canolbwyntio ar astudio a gwneud diagnosis o afiechyd. Mae hyn yn cynnwys archwilio organau sy’n cael eu tynnu’n llawfeddygol, meinweoedd (samplau biopsi), hylifau corfforol (fel gwaed, wrin ac ysgarthion) ac mewn rhai achosion y corff cyfan (awtopsi). Mae patholeg yn sylfaenol i bron pob agwedd ar ofal cleifion, o wneud diagnosis o ganser i reoli afiechyd cronig trwy brofion labordy cywir.

Pam mae angen prawf Patholeg arna i?

Gall y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am eich gofal ofyn am brawf Patholeg i...

  • cadarnhau neu eithrio presenoldeb afiechyd penodol, a darparu diagnosis terfynol (e.e. canser)
  • helpu i fonitro cynnydd afiechyd neu gyflwr (e.e. diabetes, clefyd thyroid)
  • monitro effeithiolrwydd triniaethau a therapïau (e.e. therapi warffarin)
  • helpu i atal neu leihau trosglwyddiad clefyd heintus (e.e. Covid-19, y frech goch)
  • helpu i baratoi claf ar gyfer triniaeth (e.e. croesparu ar gyfer trallwysiad gwaed, gwaed cyn llawdriniaeth)
  • sgrinio ar gyfer clefyd penodol i helpu i leihau nifer yr achosion o farwolaethau a salwch (e.e. sgrinio'r coluddyn)
  • ffurfio rhan o archwiliad iechyd arferol ar gyfer canfod clefyd yn gynnar.

Ble mae fy sampl Patholeg yn mynd?

 Bydd eich sampl yn cael ei gyfeirio at yr arbenigedd Patholeg gywir yn dibynnu ar y math sampl a'r prawf y gofynnwyd amdanynt. Bydd eich sampl wedi'i labelu ynghlwm wrth y ffurflen gais Patholeg gywir, ynghyd â'ch manylion demograffig gan gynnwys eich rhif GIG neu ysbyty, ac yn hanfodol y prawf/profion sydd eu hangen.   Bydd manylion eraill hefyd yn cael eu cynnwys er enghraifft enw'r ward neu'r feddygfa rydych yn mynychu, enw'r clinigwr sy'n gofyn a dyddiad ac amser y cymerwyd y sampl. Bydd y ffurflen gais a'r manylion yn helpu i gyfeirio'r sampl i'r labordy cywir a sicrhau bod eich canlyniad Patholeg mor gywir â phosibl.

 Pryd fydda i’n derbyn fy nghanlyniad Patholeg?

Mae hyd yr amser y bydd eich sampl Patholeg yn ei gymryd i'w brosesu yn dibynnu ar y math o brawf y gofynnir amdano. Gall hyn amrywio'n fawr o oriau i ddyddiau ac mewn sawl achos wythnosau. Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi gofyn am eich prawf Patholeg yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd i ddisgwyl eich canlyniadau yn ystod eich ymgynghoriad neu'ch apwyntiad. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach ynghylch profion sy’n cael eu darparu a'u hamseroedd gweithredu disgwyliedig drwy gysylltu â'r gwasanaeth patholeg perthnasol (gweler gwybodaeth gyswllt).

Cyn gynted ag y bydd eich sampl wedi'i brosesu, bydd eich canlyniad ar gael yn electronig. Mae hyn yn golygu y gall y meddyg, meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall a ofynnodd am eich sampl gael mynediad i'ch canlyniad trwy system gyfrifiadurol. Os ydych yn aros i dderbyn canlyniad Patholeg, bydd angen i chi gysylltu â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am eich gofal.

Peidiwch â chysylltu â labordai Patholeg yn uniongyrchol am ganlyniadau gan nad ydym wedi ein hawdurdodi i roi canlyniadau'n uniongyrchol i gleifion.

Bydd unrhyw oedi sylweddol disgwyliedig i ganlyniadau profion a allai o bosibl effeithio ar ofal cleifion yn cael eu cyfleu gan Batholeg i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y Bwrdd Iechyd. Fel claf bydd y wybodaeth hon yn hygyrch i chi drwy'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol.

 

Dolenni defnyddiol

 

 

Dilynwch ni: