Neidio i'r prif gynnwy

Yfed o gwpan

Pam mae'n bwysig

Mae dysgu yfed o gwpan agored yn sgìl bywyd bwysig sy'n helpu'ch plentyn i fod yn fwy annibynnol.

1. Dewiswch Gwpan Addas

  • Dewiswch gwpan fechan, ysgafn sy'n hawdd i'w dal.
  • Mae ymyl meddal neu silicon yn brafiach ar ddannedd y plentyn.
  • Peidiwch â rhoi llawer o ddiod yn y gwpan ar y dechrau.
  • Gall pethau fel handlenni neu bwysau ar waelod y gwpan helpu, ond dydy hyn ddim yn hanfodol.

2. Helpwch eich Plentyn i Eistedd yn Iawn

  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn eistedd yn syth a bod y traed, y pengliniau a’r cluniau yn cael eu cefnogi.
  • Cadwch y gwpan yn syth o'u blaenau.
  • Eisteddwch gyferbyn â’ch plentyn er mwyn iddo eich gwylio a'ch copïo.

3. Ffyrdd Hawdd o Ymarfer

  • Dechreuwch gyda diodydd mwy trwchus (e.e. smwddis neu ddiodydd iogwrt) am eu bod yn haws i’w cadw yn y gwpan.
  • Ychydig bach iawn ddylech chi ei roi yn y gwpan i ddechrau.
  • Os oes angen, helpwch eich plentyn i godi’r gwpan trwy roi eich dwylo chi dros ei ddwylo.
  • Pwyswch y gwpan yn erbyn ei wefusau’n ysgafn er mwyn ei helpu i gau’r gwefusau amdani.
  • Dangoswch i’ch plentyn sut i wneud – cymerwch sip a dywedwch "aah!".
  • Efallai y bydd eich plentyn yn colli ychydig o ddiod ar ddamwain, mae hynny'n iawn – ymarferwch am byliau byr, heb gynnwrf, a gwnewch yn siŵr ei fod yn brofiad dymunol.

4. Adeiladu sgiliau trwy chwarae:

Gweithgareddau hwyliog sy'n helpu:

  • Arllwys dŵr
  • Codi dŵr gyda chwpanau bychain
  • Chwarae te parti
  • Chwarae gyda chwpanau gan ddefnyddio doliau neu dedis
  • Chwarae â dŵr gan ddefnyddio jygiau a chwpanau

5. Adeiladu Sgiliau Motor y Geg (Symudiadau'r Geg)

Rhowch gynnig ar:

  • Chwythu swigod
  • Chwythu peli cotwm ar draws bwrdd

Awgrymiadau

  • Dechreuwch gyda hylifau trwchus.
  • Defnyddiwch gwpan fach, ysgafn.
  • Helpwch eich plentyn i eistedd yn syth.
  • Cofiwch ymarfer mewn ffordd hwyliog, heb bwysau.

Mae colli diod ar ddamwain yn rhan o ddysgu.

Dilynwch ni: