Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau trefnu

Nod yr wybodaeth hon yw eich helpu i gefnogi eich plentyn i drefnu ei hun mewn amrywiol sefyllfaoedd drwy gydol y dydd.

Mae sgiliau trefnu yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Maent yn helpu eich plentyn i gynllunio ar gyfer y diwrnod sydd i ddod, paratoi ar gyfer tasgau unigol, dewis yr offer cywir ar gyfer y dasg a chyflawni tasgau'n effeithiol.

Beth all fod yn anodd?

Mae trefnu yn sgil gymhleth sy'n dibynnu ar gof plentyn, datrys problemau, blaenoriaethu, ymwybyddiaeth o'r corff, prosesu gweledol, y drefn maen nhw'n gwneud pethau, a rheoli amser.

Awgrymiadau gorau ar gyfer trefnu a chynllunio

  • Defnyddio awgrymiadau gweledol fel ffotograffau neu ddefnyddio rhestrau i amlygu'r hyn sydd ei angen ar gyfer tasg benodol.

  • Defnyddio awgrymiadau amgylcheddol fel labelu droriau neu gypyrddau i helpu i adnabod ble mae pethau.

  • Defnyddio dyddiadur, cynlluniwr, neu apiau atgoffa.

  • Creu trefn gyson gartref.

Syniadau ar gyfer gweithgareddau sy'n helpu gyda dysgu sgiliau trefnu

  • Defnyddio siart ticio tasgau bore/amser gwely.

  • Defnyddio bwrdd gwyn/sialc i gofnodi tasgau pob dydd.

  • Defnyddio siart amseru dyddiol i helpu i annog y plentyn i ddeall faint o amser y bydd pob tasg yn ei gymryd.

  • Defnyddio nodiadau gludiog lliw neu larwm ar ffôn i’w hatgoffa o dasgau pwysig.

 

Dilynwch ni: