Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) yn wasanaeth arbenigol, aml-broffesiynol sy'n cefnogi oedolion awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion awtistig ledled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'r tîm yn cynnwys;
- Arweinydd Tîm
- Seicolegydd Clinigol
- Therapydd Galwedigaethol
- Therapydd Iaith a Lleferydd
- Ymarferwyr Arbenigol Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASD)
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Gweithwyr Cymorth Cymunedol
- Gweinyddwr
Sut Gallwn Ni Helpu
Oedolion sy'n meddwl y gallen nhw fod ag awtistiaeth
Gall oedolion 18 oed a throsodd ofyn am asesiad diagnostig ar gyfer awtistiaeth (gellir derbyn atgyfeiriadau o 17 oed a 9 mis oed).
Oedolion Awtistig
Gall oedolion awtistig sydd wedi cael diagnosis ffurfiol gael mynediad at amrywiaeth o opsiynau cymorth ar ôl diagnosis, gan gynnwys:
- Cwrs ôl-ddiagnostig i gefnogi dealltwriaeth o awtistiaeth, neu gwrs cyfathrebu a rhyngweithio ag eraill
- Ymgynghoriadau cychwynnol i archwilio anghenion cyfredol a nodi cefnogaeth briodol
- Sesiynau cyngor dros y ffôn wedi'u trefnu ymlaen llaw sy'n cynnig arweiniad a chyfeirio at wasanaethau eraill
Teuluoedd a Gofalwyr
Gall teuluoedd a gofalwyr oedolion awtistig gael mynediad at:
- Cymorth ac arweiniad drwy gwrs cefnogwyr
- Sesiwn gyngor dros y ffôn yn cynnig gwybodaeth a chyngor, neu'n cyfeirio at wasanaethau eraill am gymorth ychwanegol
Gweithwyr Proffesiynol a Gwasanaethau
Gall gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion awtistig gysylltu â'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig am:
- Ymgynghoriad, cyngor ac arweiniad
- Cymorth i ddiwallu anghenion unigolion awtistig yn well
- Cyfeirio at wasanaethau ac adnoddau perthnasol
Cymorth sydd ar gael
Mae'r IAS yn cynnig cefnogaeth unigol a chyrsiau strwythuredig. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cwrs Cymorth Ôl-ddiagnostig (PDS) - Cefnogi oedolion awtistig a’u cefnogwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o awtistiaeth, gan gynnwys cryfderau, profiadau ac anghenion cymorth
- Cwrs Cyfathrebu a Rhyngweithio ag Eraill (CIWO) - Cefnogi oedolion awtistig i archwilio cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol mewn ffyrdd sy'n ystyrlon iddyn nhw.
- Ymgynghoriadau cychwynnol - I drafod anghenion cyfredol a nodi opsiynau cymorth priodol ar gyfer oedolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth
- Sesiynau cyngor dros y ffôn - Apwyntiadau wedi’u trefnu ymlaen llaw sy’n darparu cyngor a chyfeirio at wybodaeth
Pwy All Ddefnyddio'r Gwasanaeth Hwn
Mae'r IAS ar gael i:
- Oedolion sydd am ofyn am asesiad ar gyfer awtistiaeth
- Oedolion awtistig sy’n chwilio am gymorth
- Teuluoedd a gofalwyr oedolion awtistig
- Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion awtistig
Beth nad ydym yn ei ddarparu
Mae'r IAS yn canolbwyntio ar asesu a chymorth tymor byr. Dydy’r gwasanaeth ddim yn cynnig:
- Gwaith uniongyrchol â phlant
- Gofal hirdymor neu reoli gofal
- Triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl
- Cymorth brys, argyfwng, neu ymateb cyflym
Manylion Cyswllt
Y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)
Ysbyty George Thomas
Ffordd Cwmparc
Treorci
CF42 6YG
Phone: 01443 715044
Email: CTT_IAS@wales.nhs.uk
Oriau Agor: O ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am – 5:00pm (Heb gynnwys Bwyliau Banc)