Neidio i'r prif gynnwy

Cwsg ac amser gwely

Mae'r wybodaeth hon yma i'ch helpu i gefnogi'ch plentyn wrth iddo baratoi i gysgu. Mae noson dda o gwsg yn bwysig er mwyn teimlo'n dda yn ystod y dydd. 

Beth all fod yn anodd?

  • Tawelu a pharatoi ar gyfer y gwely
  • Cysgu mewn ystafell wely nad yw wedi'i gosod ar gyfer gorffwys
  • Dilyn trefn amser gwely

Awgrymiadau gorau ar gyfer creu amgylchedd cysgu gwych

  • Gwybod beth sy'n nodweddiadol ar gyfer ei oedran. Mae angen gwahanol oriau o gwsg ar blant ar wahanol oedrannau. Mae ganThe Lullaby Trust wybodaeth ddefnyddiol. 
  • Gwirio amgylchedd yr ystafell wely. Ydy hi'n rhy lachar, swnllyd, poeth, oer, lliwgar neu oes ganddi lawer o arogleuon gwahanol? Oes angen tedi neu rywbeth cyfarwydd a chysurus arnyn nhw i'w ddal? Gall newidiadau bach wneud i'r ystafell deimlo'n fwy llonydd ac yn fwy diogel. 
  • Siarad am amser gwely. Gofyn i'ch plentyn beth nad yw’n ei hoffi rhyw lawer am y drefn amser gwely a gweld beth allwch chi ei newid. Gall stori gymdeithasol syml cyn mynd i'r gwely helpu i gychwyn y sgwrs. 
  • Chwarae ffug. Gall rhoi tegan i'r gwely helpu'ch plentyn i siarad am beth sy'n gwneud amser gwely yn anodd iddo. 
  • Gwneud gweithgareddau tawelu cyn mynd i'r gwely. Gall pwysau dwfn, fel cofleidio tynn, siglo ysgafn neu siglo'n araf, dawelu’r plentyn. 
  • Lleihau amser sgrin. Ceisio rhoi’r gorau i edrych ar sgriniau 30-60 munud cyn mynd i’r gwely. Mae astudiaethau wedi dangos bod hyn yn helpu i gefnogi swyddogaeth naturiol y corff sy'n ymdawelu er mwyn cysgu pan mae hi'n dywyll. Mae golau o sgriniau yn twyllo'r corff i feddwl ei bod hi'n dal yn ystod y dydd. 
  • Cadw at drefn ddyddiol. Mae gwneud yr un gweithgareddau tawelu bob nos yn helpu plant i ddeall ei bod hi'n amser ymlacio. Gall amserlenni gweledol helpu hefyd. Mae hyn yn helpu plant i ddeall ei bod hi'n amser ymlacio a pharatoi ar gyfer amser gwely. 
  • Gwneud gweithgareddau tawel yn y gwely. Gall darllen llyfrau mewn goleuadau isel helpu plant i deimlo'n gysglyd. 
  • Annog plant i wneud digon o ymarfer corff a symud yn ystod y dydd, ond osgoi chwarae actif ychydig cyn mynd i'r gwely.
  • Osgoi prydau mawr a bwydydd sy'n cynnwys caffein cyn mynd i'r gwely, fel diodydd byrlymog a siocled. 
  • Gwirio ei ddillad gwely. Ydy’r cynfas gwely yn esmwyth? Fyddai'n well gyda fe ddeunydd gwahanol ar ei glustog? Gall gadael iddo ddewis ei ddillad gwely helpu. Cofiwch y dylai plant dan 1 oed ddilyn canllawiau cysgu diogel sydd ar gael trwy'r Lullaby Trust
  • Aros yn dawel a rhoi sicrwydd iddo. Gall gymryd amser i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i'ch plentyn. 

Gwefannau defnyddiol gyda mwy o adnoddau

 

Dilynwch ni: