Neidio i'r prif gynnwy

Beth alla i ei wneud i gadw fy Ysgyfaint yn iach?

 

Rhoi'r gorau i ysmygu yw'r newid pwysicaf y gallwch chi ei wneud i wella eich iechyd. 

Dydy hi byth yn rhy hwyr i stopio.

Os ydych chi'n barod i newid pethau, rydyn ni yma i helpu. Rydych chi’n llawer mwy tebygol o stopio am byth gyda chymorth gwasanaeth rhad ac am ddim Helpa Fi i Stopio’r GIG yng Nghymru. Gallwn eich rhoi chi mewn cysylltiad gyda nhw yn ystod eich gwiriad iechyd yr ysgyfaint, neu gallwch chi hunangyfeirio ar-lein neu dros y ffôn.

www.helpafiistopio.cymru / RHADFFÔN: 0800 085 2219

 

Beth arall alla i ei wneud?

  • Cadwch yn egnïol. Faint bynnag fyddwch chi'n ei wneud, mae gweithgaredd corfforol yn dda i'ch corff a'ch meddwl. Anelwch at fod yn actif bob dydd.
  • Bwyta deiet iach a chytbwys. Bwytewch o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd, a bwyta llai o fraster dirlawn a siwgr.
  • Yfed llai nag 14 uned o alcohol yr wythnos, a gwasgaru unrhyw yfed dros dri diwrnod neu fwy. 
Dilynwch ni: