Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru i Gyn-filwyr

GIG Cymru i Gyn-filwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gyn-filwyr Lluoedd Arfog EM sy'n byw yng Nghymru os oes problemau iechyd meddwl cyffredin ganddynt, neu os ydyn nhw’n amau bod problemau iechyd meddwl cyffredin ganddynt, sy'n gysylltiedig â'u gyrfa yn y gwasanaeth.

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn rhan o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, ac yn darparu asesiadau a thriniaeth seicolegol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin, fel gorbryder, iselder, ac anhwylder straen wedi trawma.

I bwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer cyn-filwyr y Lluoedd Arfog (y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Awyrlu Brenhinol) sy'n byw yng Nghymru ac yn dioddef anawsterau iechyd meddwl cyffredin ysgafn i gymedrol, a hynny o ganlyniad i'w gyrfa yn y Lluoedd Arfog.

Diffiniad 'cyn-filwr' yw unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydeinig EM, boed hynny yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol, neu'r Awyrlu Brenhinol, am o leiaf un diwrnod, naill ai fel aelod rheolaidd neu fel milwr wrth gefn.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer cyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Mynediad agored trwy hunan-atgyfeiriad / ar-lein / dros y ffôn / drwy lythyr atgyfeirio.

Amseroedd Agor
Oriau swyddfa arferol: 09.00-17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Oriau gweinyddol: 08.30-12.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener

Beth i'w ddisgwyl

Bydd atgyfeiriadau newydd yn cael eu sgrinio a byddwn ni’n cysylltu â'r cyn-filwr dros y ffôn am ragor o wybodaeth os bydd angen. Os yw'n briodol, bydd ffurflen 'optio i mewn' a ffurflen ganiatâd yn cael eu hanfon at y cyn-filwr i'w llenwi a'u dychwelyd at y gwasanaeth, er mwyn trefnu asesiad cychwynnol wyneb yn wyneb gyda’r therapydd.

Ar ôl yr asesiad, mae’n bosib y bydd y cyn-filwyr yn cael ei gyfeirio at wasanaethau perthnasol eraill a/neu therapi seicolegol i gleifion allanol gyda'r therapydd.

Mae’n bosib y bydd y therapydd yn cynnig therapi seicolegol, sy'n cynnwys sesiynau byr o therapi seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn unol â chanllawiau NICE.

Cysylltwch â ni

https://www.veteranswales.co.uk/

GIG Cymru i Gyn-filwyr
Llawr cyntaf, Parc Iechyd Dewi Sant
Heol Albert
Pontypridd
CF37 1LB

Ffôn: 01443 443443 estyniad 75411
E-bost: CTT_adminVNHSW@wales.nhs.uk

Dolenni defnyddiol

Y Lleng Brydeinig
Newid Cam

Dilynwch ni: