Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r Eisteddfod genedlaethol yn RhCT eleni.
Fe welwch stondin Cwm Taf Morgannwg (rhif stondin 156) ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Bydd ein stondin yn ddathliad o'r Gymraeg yng Nghwm Taf Morgannwg, rhanbarth yr ydym yn hynod falch ohono am ei threftadaeth, ei dirwedd a'i harddwch ac yn bwysicaf oll i'r bobl; y rhai sy'n gweithio yma neu sy'n ei alw'n gartref.
Yn ystod yr wythnos, byddwch yn gallu rhoi eich cwestiynau i lawer o arbenigwyr a thimau o bob rhan o'n bwrdd iechyd. Mae ein rhaglen sy'n seiliedig ar addysg yn cynnig hwyl a rhyngweithioldeb i'r teulu cyfan.
Mae'r wefan hon i ddarparu gwybodaeth bwysig i'n cymunedau lleol, holl ymwelwyr Eisteddfod genedlaethol a rhyngwladol, a'n sefydliadau partner, i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau yn y digwyddiad unigryw hwn.
O wybodaeth am gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd a chymorth, i gynllunio ar gyfer eich ymweliad, bydd y 'siop un stop' hon yn rhoi mynediad i chi at bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Oddi wrth bawb yn CTM - edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.
(Dilynwch ein digwyddiad cyfri’r dyddiau i lawr ar gyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau diweddaraf).
Os oes angen cymorth meddygol arnoch, siaradwch â stiward iechyd ar y safle a fydd yn gallu helpu.
Dyma rai canllawiau ychwanegol a gwybodaeth iechyd i gefnogi eich ymweliad.
Mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru ac mae gan bob un ohonom yr hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda ni gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae hyn oherwydd bod defnyddio'r Gymraeg yn fwy na rhywbeth neis i’w gael lle mae’r cyfle’n codi; gall wneud cymaint o wahaniaeth i’n profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd.
Rydym wedi cyhoeddi'r daflen fer hon ar beth yw eich hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg gyda BIPCTM. O ddefnyddio eich Cymraeg pan welwch y logo 'Cymraeg' oren a chyfarchiad dwyieithog syml wrth gyrraedd, i arwyddion, hysbysiadau a thaflenni, mae ein bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd yn Gymraeg i chi. Felly defnyddiwch eich Cymraeg gyda ni; mae'n iawn gwneud hynny ac rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i'r cymunedau rydyn ni'n gofalu amdanynt.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg amrywiaeth o gyfleoedd gwaith ar gael ar hyn o bryd. I ddysgu mwy am un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ewch i’r dolenni isod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm, dewch i'n stondin yn yr Eisteddfod am ragor o wybodaeth.
Byddwn yn arddangos rhai o'n gyrfaoedd ar ddydd Sadwrn – 3 Awst, a dydd Llun – 5 Awst, o 2-4 pm.