Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd yn ystod Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint?

 

Nod gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yw canfod a thrin canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn i chi gael unrhyw arwyddion neu symptomau.

 
1

 

Bydd eich gwahoddiad yn cyrraedd yn y post gyda llyfryn gwybodaeth.

 
2

 

Bydd gofyn i chi ateb rhai cwestiynau mewn apwyntiad dros y ffôn.

 
3

 

Yn dibynnu ar eich atebion, efallai y cewch gynnig sgan sgrinio canser yr ysgyfaint cyflym a di-boen.

 
4

 

Byddwn yn cysylltu â chi a'ch meddyg gyda'r canlyniadau.

 

Gwahoddiadau am Wiriadau Iechyd yr Ysgyfaint

Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n cael eu gwahodd am Wiriadau Iechyd yr Ysgyfaint ar gael yma.

 

Beth yw Canser yr Ysgyfaint?

Mae'r ysgyfaint yn bâr o organau yn y frest sy'n helpu i gael ocsigen i mewn a nwyon gwastraff allan o'ch corff. Mae canser yr ysgyfaint yn digwydd pan fydd celloedd yn yr ysgyfaint yn dechrau tyfu allan o reolaeth. 

Canser yr ysgyfaint yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser. Nid yw fel arfer yn achosi unrhyw symptomau pan fydd yn ei gyfnod cynnar. 

Gall gwiriadau iechyd yr ysgyfaint helpu i ddod o hyd i ganser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn i chi gael unrhyw arwyddion neu symptomau. Mae dod o hyd i ganser yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi gael triniaeth lwyddiannus. 

 

Yr Apwyntiad Ffôn

Bydd eich llythyr gwahoddiad gyda dyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad ffôn yn cyrraedd drwy'r post gyda llyfryn gwybodaeth. 

Os byddwch chi ddim yn gallu ymdopi ag apwyntiad dros y ffôn, neu os dydy amser yr apwyntiad ddim yn gyfleus i chi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y llythyr er mwyn i ni allu trafod opsiynau eraill. 

Yn ystod yr apwyntiad bydd gofyn i chi ateb rhai cwestiynau am eich anadlu, eich ffordd o fyw a'ch hanes meddygol. 

Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio i ganfod eich siawns o gael canser yr ysgyfaint nawr neu yn y dyfodol. Efallai y byddwch wedyn yn cael cynnig apwyntiad dros y ffôn gyda nyrs i drafod cael sgan sgrinio canser yr ysgyfaint, i wirio am unrhyw arwyddion cynnar o ganser yr ysgyfaint.

 

Sgan Sgrinio Canser yr Ysgyfaint

Mae'r sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn fath arbennig o sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) sy'n defnyddio pelydrau-x a chyfrifiadur i dynnu llun manwl o'ch ysgyfaint. 

Yn ystod y sgan byddwch chi fel arfer yn gorwedd yn wastad ar eich cefn ar wely. Bydd y sganiwr siâp cylch yn symud o amgylch rhan fach o'ch corff wrth i chi basio trwyddo. 

Mae sganiau CT yn tynnu lluniau manwl o'ch ysgyfaint i chwilio am unrhyw arwyddion cynnar o ganser yr ysgyfaint.
Llun © 2023 InHealth Limited

Mae staff hyfforddedig yn rheoli'r sganiwr o'r tu ôl i sgrin yn yr ystafell. Byddwch chi’n gallu eu gweld a siarad â nhw. Pan bydd y sgan yn digwydd, bydd angen i chi orwedd yn llonydd a dilyn cyfarwyddiadau anadlu syml am 10 eiliad. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r lluniau'n aneglur.

Dydy’r sgan ddim yn boenus. Gallwch chi fwyta, yfed neu yrru cyn ac ar ôl eich sgan. 

 

Canlyniadau

Fel arfer, byddwch chi’n cael eich canlyniadau o fewn pedair wythnos i'r sgan. Mae tri chanlyniad posib:

Weithiau gall sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint weld pethau eraill ar hap, yn yr ysgyfaint neu mewn rhannau eraill o'r corff. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a'ch meddyg os oes angen unrhyw brofion neu driniaethau. 

Dilynwch ni: