Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n cael gwahoddiad?

 

Mae gwiriadau iechyd ysgyfaint y GIG AM DDIM yn cael eu cynnig i bobl:

  • o feddygfeydd dethol yn ardal y Rhondda
  • sy'n ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol, a
  • sydd rhwng 60 a 74 oed

Mae'r holl wahoddiadau ar gyfer y rhaglen beilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint hon bellach wedi'u hanfon. Os dydych chi ddim wedi derbyn gwahoddiad, yn anffodus fyddwn ni ddim yn gallu cynnig Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint i chi.

Os ydych chi'n gymwys, byddwch wedi derbyn gwahoddiad drwy'r post. Mae gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yn wahanol i wiriadau iechyd eraill y GIG. Hyd yn oed os ydych wedi bod am brawf iechyd gwahanol yn ddiweddar, dylech ystyried cael eich prawf iechyd ysgyfaint o hyd. 

 

Pa feddygfeydd sy'n cael eu cynnwys?

Mae pobl sy'n gymwys wedi cael eu gwahodd o feddygfeydd dethol yn ardal Gogledd y Rhondda - Myddygfa St David Street, Meddygfa Llwynypia a Chanolfan Feddygol Forest View.

Yn anffodus dydyn ni ddim yn gallu cynnig gwiriadau iechyd yr ysgyfaint i bobl sydd wedi cofrestru mewn meddygfeydd eraill ar hyn o bryd. Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud o hyd i gadw'ch Ysgyfaint yn iach, a gwybodaeth am ba symptomau i gadw llygad amdanyn nhw

Mae’r rhaglen gwiriadau iechyd yr ysgyfaint hon yn “beilot gweithredol”. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig i bobl sydd wedi'u cofrestru mewn nifer fach o feddygfeydd am gyfnod penodol o amser. Yn ogystal â helpu’r bobl sy’n cael prawf iechyd yr ysgyfaint nawr, byddwn yn dysgu am y ffordd orau o gynnal gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Rhaglen Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint.

Dilynwch ni: