Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw manteision a risgiau Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint?

 

Mater i chi yw penderfynu a ydych chi am gael gwiriad iechyd yr ysgyfaint ai peidio.

Gall y wybodaeth isod eich helpu i benderfynu.

Ar ôl darllen hwn, os ydych am gael gwybodaeth fanylach am fanteision a risgiau gwiriadau iechyd yr ysgyfaint, mae gwybodaeth ar gael ar waelod y dudalen.

 

Beth yw'r manteision?

  • Mae gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yn achub bywydau.
  • Mae canserau'r ysgyfaint sy’n cael eu canfod drwy wiriadau iechyd yr ysgyfaint yn llawer mwy tebygol o fod ar gam cynnar. 
  • Pan gaiff ei ganfod yn gynnar, gall triniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint fod yn symlach ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. 
  • Mae ymchwil yn dangos y gall sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint leihau'r siawns y byddwch chi’n marw o ganser yr ysgyfaint 25%.

 

Beth yw'r risgiau?

Fel pelydrau-x, mae sganiau CT yn defnyddio ymbelydredd i greu lluniau o'ch ysgyfaint.

Mae'r dos o ymbelydredd o sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn llawer llai nag o'r rhan fwyaf o fathau eraill o sganiau CT. Mae'r siawns y bydd y sgan yn achub eich bywyd trwy ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar yn llawer mwy na'r siawns y bydd y sgan yn achosi niwed i chi.

 

Dydy gwiriadau iechyd yr ysgyfaint a sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint ddim yn dod o hyd i bob canser yr ysgyfaint.

Bydd rhai pobl sydd heb gael sgan yn datblygu canser yr ysgyfaint. Weithiau does dim modd gweld canserau'r ysgyfaint ar sganiau ac, yn achlysurol iawn, efallai y bydd canser yn cael ei fethu ar sgan. Gall canserau'r ysgyfaint ddatblygu hefyd ar ôl sgan sgrinio.

 

Bydd rhai pobl sydd angen profion pellach ar ôl eu sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn canfod nad oes canser yr ysgyfaint gyda nhw.

Gall hyn beri pryder ac achosi gofid.

 

Weithiau gall sganiau sgrinio ganfod canser yr ysgyfaint fyddai byth yn achosi niwed.

Ni all meddygon bob amser ddweud a fydd canser yn mynd ymlaen i fod yn fygythiad bywyd. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn cael profion ac yn cael triniaeth nad oedd eu hangen.

Rydw i am gael gwybodaeth fanylach am fuddion a risgiau

Budd-daliadau

Mae cam canser yn dweud wrthych pa mor fawr yw hi ac a yw wedi lledaenu ai peidio. Mae canserau'r ysgyfaint yn un o bedwar cam. Mae Cam 1 yn golygu bod y canser yn fach ac nad yw wedi lledaenu i'ch nodau lymff nac organau eraill.  Mae'r camau sydd wedi'u rhifo'n uwch yn golygu bod y canser wedi tyfu neu wedi lledaenu i rannau eraill o'ch corff. Rydyn ni’n galw canser yr ysgyfaint cam 1 a cham 2 yn “gam cynnar”, a cham 3 a 4 yn “gam hwyr”. Mae rhagor o wybodaeth am gamau canser yr ysgyfaint ar gael ar wefan Canser Research UK.

Yng Nghymru, mae tri chwarter o ganserau’r ysgyfaint yn cael diagnosis yng ngham 3 neu gam 4. Yn y cyfnodau hyn, mae canserau’r ysgyfaint yn fwy anodd eu trin nag yng ngham 1 neu gam 2. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cael eu canfod yn hwyr oherwydd yn aml dydy canser yr ysgyfaint ddim yn achosi symptomau nes iddo gyrraedd cam diweddarach, neu efallai nad ydy hi’n amlwg bod y symptomau o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint. 

Gall sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint ddod o hyd i ganser yr ysgyfaint cyn iddyn nhw achosi symptomau. Mae tri chwarter o ganserau’r ysgyfaint sy’n cael eu diagnosio drwy sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint ar gam 1 neu gam 2. Mae canserau'r ysgyfaint sydd wedi eu canfod yn gynnar yn haws eu trin, yn aml trwy lawdriniaeth i dynnu rhan o'r ysgyfaint neu gyda radiotherapi. 

Drwy ddod o hyd i ganserau’r ysgyfaint yn gynharach, gall sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint leihau’r siawns o farw o ganser yr ysgyfaint tua 25%.

Risgiau

Er bod gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yn achub bywydau ac yn lleihau'r siawns o farw o ganser yr ysgyfaint, fel gyda phob math o sgrinio, mae rhai risgiau. 

 

Fel pelydrau-x, mae sganiau CT yn defnyddio ymbelydredd i greu lluniau o'ch ysgyfaint.

Mae'r dos o ymbelydredd o sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn llawer llai nag o'r rhan fwyaf o fathau eraill o sganiau CT. Mae'r siawns y bydd y sgan yn achub eich bywyd trwy ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar yn llawer mwy na'r siawns y bydd y sgan yn achosi niwed i chi. Efallai nad ydych yn ymwybodol ohono, ond mae ymbelydredd o'ch cwmpas bob dydd.  Yr enw ar hyn yw "ymbelydredd cefndir" ac mae'n digwydd yn naturiol yn yr amgylchedd. Mae sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn eich datgelu i beth sy'n cyfateb i tua 6 mis o ymbelydredd cefndir. 

 

Dydy gwiriadau iechyd yr ysgyfaint a sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint ddim yn dod o hyd i bob canser yr ysgyfaint.

Bydd rhai pobl sydd heb gael sgan yn datblygu canser yr ysgyfaint. Er mwyn cydbwyso risgiau sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint yn erbyn y buddion, dim ond pobl sydd â risg uwch o ganser yr ysgyfaint sy'n cael cynnig sgan sgrinio canser yr ysgyfaint. Fodd bynnag, bydd rhai canserau'r ysgyfaint yn digwydd mewn pobl nad oedd eu risg yn ddigon uchel iddyn nhw gael sgan sgrinio canser yr ysgyfaint. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn canfod pwy sydd â risg uwch o ganser yr ysgyfaint yn yr adran isod ar “Sut ydyn ni'n cydbwyso'r manteision a'r risgiau”.

Weithiau does dim modd gweld canserau'r ysgyfaint ar sganiau ac, yn achlysurol iawn, efallai y bydd canser yn cael ei fethu ar sgan. Mae'r lluniau a gynhyrchir gan sganiau CT yn fanwl a gallan nhw fod yn gymhleth i'w dehongli. Mae arbenigwyr hyfforddedig yn adolygu sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint i chwilio am arwyddion o ganser yr ysgyfaint neu nodiwlau ysgyfaint. Maen nhw hefyd yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbennig a all helpu i ddod o hyd i bethau sy'n gallu bod yn anodd eu gweld. Hyd yn oed gyda'r mesurau hyn, bydd rhai canserau neu nodiwlau o hyd sydd ddim yn weladwy neu heb eu gweld ar sganiau. Hyd yn oed os ydych wedi cael sgan sgrinio canser yr ysgyfaint, gall canser yr ysgyfaint ddatblygu unrhyw bryd felly mae'n bwysig cadw llygad am unrhyw symptomau nad ydynt yn arferol i chi.

 

Bydd rhai pobl sydd angen profion pellach ar ôl eu sgan sgrinio canser yr ysgyfaint yn canfod nad oes canser yr ysgyfaint gyda nhw.

Bydd angen i tua 4 o bob 100 o bobl sy'n cael sgan sgrinio am ganser yr ysgyfaint gael mwy o brofion. Gall y profion hyn gynnwys mwy o sganiau, biopsi, profion chwythu, ac weithiau mathau eraill o brofion. Mae rhagor o wybodaeth am brofion ar gyfer canser yr ysgyfaint ar gael ar wefan Cancer Research UK.

O'r 4 o bob 100 o bobl sydd angen mwy o brofion, bydd 2 o'r 4 o bobl yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn dilyn eu profion, tra bydd y 2 arall o'r 4 heb ganser yr ysgyfaint. Y term meddygol am hyn yw sgrin “ffug-bositif”.  

Gall cael profion beri gofid ac achosi trallod. Er bod y profion eu hunain fel arfer yn ddiogel iawn, mae rhai risgiau hefyd.  Er enghraifft, bydd cael sganiau ychwanegol yn arwain at fwy o amlygiad i ymbelydredd, ac mae gwaedu a haint yn risgiau o gael biopsi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cancer Research UK. Rydym yn gwneud y profion hyn oherwydd bod y risgiau ohonyn nhw yn isel ar y cyfan, ac os byddwn yn dod o hyd i ganser yr ysgyfaint yna gall cleifion elwa o driniaeth. Ond, i rai o’r bobl sy’n cael y profion, fydd dim canser yr ysgyfaint gyda nhw a fydden nhw ddim wedi gorfod cael y profion pe na baen nhw wedi cael sgan sgrinio canser yr ysgyfaint. 

Mae sawl rheswm pam y gellir argymell mwy o brofion ar ôl sgan sgrinio am ganser yr ysgyfaint ac yna i beidio â chael diagnosis o ganser yr ysgyfaint ar ôl profion pellach. Weithiau gall mannau lle mae llid, haint neu greithiau  ddatblygu yn yr ysgyfaint heb achosi unrhyw symptomau. Dydy hi ddim bob amser yn bosibl dweud y gwahaniaeth rhwng y newidiadau hyn a chanser yr ysgyfaint ar sgan sgrinio canser yr ysgyfaint. Dyna pam mae angen mwy o brofion i gadarnhau a ydy beth y gallwn ei weld ar y sgan yn ganser yr ysgyfaint ai peidio.  

Yn ogystal â'r 4 o bobl sydd angen mwy o brofion, bydd gan 16 o bob 100 o bobl sy'n cael sgan sgrinio canser yr ysgyfaint nodiwl ysgyfaint. Bydd y bobl hyn yn cael eu gwahodd am ail sgan, fel arfer ar ôl 3 mis. Efallai y bydd angen sgan pellach 12 mis ar ôl y sgan cychwynnol hefyd. Mae hyn i weld a yw'r nodiwl yn mynd yn fwy, a allai ddangos bod y nodiwl yn ganser yr ysgyfaint fach. Nid canser sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o nodiwlau'r ysgyfaint, ac maen nhw naill ai'n aros yr un peth neu'n diflannu dros amser. Dydy hi ddim yn bosibl dweud o'ch sgan sgrinio canser yr ysgyfaint pa nodiwlau sy'n debygol o ddod yn ganserau'r ysgyfaint dros amser. Felly ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl sydd angen ail sganiau ganser yr ysgyfaint wedi’r cwbl. Gall gwybod bod gyda chi nodiwl ar yr ysgyfaint a bod angen ail sganiau fod yn achos pryder a gofid i rai pobl. 

 

Weithiau gall sganiau sgrinio ganfod canser yr ysgyfaint fyddai byth yn achosi niwed.

Pan fydd pobl yn cael sganiau sgrinio am ganser yr ysgyfaint, rydyn ni’n dod o hyd i fwy o ganserau’r ysgyfaint nag y bydden ni wedi disgwyl pe na bai’r bobl hynny wedi cael eu sgrinio. Mae hyn oherwydd na fyddai rhai canserau wedi achosi problem i'r person hwnnw nac wedi'u canfod yn ystod eu hoes heb sgrinio. Y term meddygol am hyn yw “gorddiagnosis”.

Pan fyddwn yn dod o hyd i ganser yr ysgyfaint ar sgan sgrinio, allwn ni ddim dweud a yw’r canser hwnnw’n un a fydd yn mynd ymlaen i fod yn un sy’n peryglu bywyd, neu a yw’n un na fyddai wedi’i chanfod yn ystod oes y person hwnnw. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn cael profion ac yn cael triniaeth nad oedd eu hangen. 

Mae ymchwil yn dangos y byddai'r rhan fwyaf o ganserau'r ysgyfaint a ganfuwyd trwy sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint wedi cael eu canfod ac wedi achosi problem yn y pen draw - ond weithiau ddim tan flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.  Mewn treial mawr yn Ewrop, am bob 11 canser yr ysgyfaint a ganfuwyd trwy sgrinio, byddai 10 wedi eu canfod yn y pen draw heb sgrinio ac ni fyddai 1 erioed wedi'i ddarganfod yn ystod oes y person. Syniad sgrinio yw dod o hyd i'r canserau a fyddai wedi eu canfod yn gynharach, pan fyddan nhw’n haws eu trin.

Sut ydyn ni'n cydbwyso'r manteision a'r risgiau?

Er bod sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint yn achub bywydau, mae hefyd rai risgiau fel y disgrifir uchod. Mae pobl sy’n wynebu risg uwch o ganser yr ysgyfaint yn elwa’n fwy ar sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint, oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod gyda canser yr ysgyfaint y gellir ei chanfod drwy sgrinio. Mae pobl sydd â risg isel o fod gyda canser yr ysgyfaint yn llai tebygol o elwa ar sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint oherwydd bod y siawns o ddod o hyd i ganser yr ysgyfaint trwy sgrinio yn eu hachos nhw yn isel iawn. Pe bai'r bobl hyn yn cael sganiau sgrinio am ganser yr ysgyfaint yna bydden nhw’n dal i fod yn agored i risgiau sgrinio, ond gyda siawns llawer is y bydden nhw’n cael unrhyw fudd ohono. 

Oherwydd hyn, dim ond pobl sydd â risg uchel o ganser yr ysgyfaint sy’n gymwys i gael sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint.  Dydyn ni ddim wedi penderfynu eto pwy yn union fydd yn gymwys i gael sganiau sgrinio canser yr ysgyfaint mewn rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint. Yn y rhaglen Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint hon sy'n cael ei chynnig i rai meddygfeydd o fewn CTM, mae dau gam i benderfynu pwy sy'n gymwys. Mae'r cyntaf yn seiliedig ar eich oedran a'ch statws ysmygu. Dim ond pobl 60-74 oed sy'n ysmygu neu sydd wedi ysmygu yn y gorffennol sy'n cael eu gwahodd am apwyntiad ffôn. Yn yr apwyntiad ffôn, byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi i ganfod y risg y byddwch yn cael canser yr ysgyfaint dros y 5 mlynedd nesaf. Byddwn yn gwneud hyn gan ddefnyddio cyfrifiannell risg arbennig sy'n ystyried eich oedran, hanes eich teulu, hanes ysmygu a rhai ffactorau eraill. Os yw eich risg o gael canser yr ysgyfaint dros y 5 mlynedd nesaf yn fwy na 2.5% (1 mewn 40), yna byddwch yn cael cynnig sgan sgrinio canser yr ysgyfaint. Os yw eich risg o ganser yr ysgyfaint yn is na hyn, fyddwch chi ddim yn cael cynnig sgan ar hyn o bryd. 

Bydd rhai pobl yn siomedig os na chân nhw gynnig sgan. Fodd bynnag, mae hyn oherwydd cydbwysedd buddion a risgiau sgrinio.

Dilynwch ni: