Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i angen help gyda fy apwyntiad

 

Mae angen i fi siarad â rhywun am fy apwyntiad

E-bost: Wales.lunghealthcheck@nhs.net

Ffôn: 02921 509955

 

Sut mae cyrraedd y Sgan Sgrinio Ysgyfaint?

Os cewch eich gwahodd am sgan sgrinio canser yr ysgyfaint, bydd yn cael ei gynnal yn Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia.  Bydd y sganiau'n cael eu gwneud mewn uned sganiwr CT symudol sydd wedi'i lleoli mewn maes parcio ar ochr yr ysbyty - nid y tu mewn i brif adeilad yr ysbyty na'r adran radioleg.

Cyrraedd Yma - Ysbyty Cwm Rhondda - Map

Cynlluniwr Taith - Ysbyty Traveline

 

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cludiant cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys i gyrraedd eich apwyntiad. Ewch i Wasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys (NEPTS) - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wirio a ydych yn gymwys.

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau teithio. Ewch i Hawlio ad-daliad am gostau teithio i gael triniaeth y GIG: Ffurflen HC5W(T) i wirio a ydych yn gymwys a chael mynediad at y ffurflen hawlio.

Llwybrau Teithio

Parcio - Mae parcio am ddim ar gael yn yr ysbyty.

Toiledau - mae’r toiled agosaf ym mhrif adeilad Ysbyty Cwm Rhondda. Mae’r toiledau i'r dde wrth i chi fynd i mewn i brif fynedfa'r ysbyty.

 

Mae cyfyngiad corfforol gyda fi a/neu rwy'n defnyddio cadair olwyn: oes gan yr uned symudol fynediad i gadeiriau olwyn?

Oes, mae mynediad i gadeiriau olwyn ar y cerbyd ar gyfer y rhai sydd ei angen.  

 

Alla i gael gafael ar wybodaeth yn Gymraeg?

Mae ein holl lyfrynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys fersiynau safonol a Hawdd eu Darllen.

Mae modd hefyd gael apwyntiad ffôn yn Gymraeg. Os hoffech drafod hyn, cysylltwch â ni: 

E-bost: Wales.lunghealthcheck@nhs.net

Ffôn: 02921 509955

 

Beth os ydw i'n fyddar neu'n drwm fy nghlyw?

Ar gyfer eich apwyntiad ffôn efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bai aelod o'r teulu neu ffrind yn gallu eich helpu gyda'r apwyntiad. Os hoffech drafod opsiynau eraill yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost uchod. 

Yn eich apwyntiad sgan sgrinio’r ysgyfaint, gallwn drefnu i ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain fynychu os oes angen y gwasanaeth hwn arnoch.

 

Oes unrhyw addasiadau ar gyfer Anableddau Dysgu?

Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol yna rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer. Gallwn gynnig slotiau amser hirach ac anfon gwybodaeth Hawdd ei Ddarllen. 

Os oes angen rhywun arnoch i ddod gyda chi i'ch sgan sgrinio ysgyfaint, peidiwch â dod gyda mwy nag un person. Gan fod lle yn gyfyngedig yn yr uned symudol, efallai y bydd gofyn i unrhyw un sy'n dod gyda chi aros y tu allan nes bod eich apwyntiad wedi'i gwblhau.

Dilynwch ni: