Neidio i'r prif gynnwy

Addysgu Ymarfer Clinigol – Gofal Sylfaenol

Mae'r gwasanaeth Addysgu Ymarfer Clinigol yn darparu cyfleoedd i nyrsys practis o ran datblygiad proffesiynol parhaus, sy'n cynnwys rhaglen sylfaenol graidd.

Rydyn ni hefyd yn hyfforddi ac yn addysgu gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei arwain gan ddwy nyrs gofrestredig.

I bwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer nyrsys practis presennol a darpar nyrsys practis, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio mewn meddygfeydd ar draws ardal Cwm Taf.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael ei deilwra i nyrsys practis a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol, er mwyn diwallu eu hanghenion o ran datblygiad proffesiynol parhaus a’u hanghenion o ran hyfforddiant ac addysg.

Oriau Agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 9:00am - 5:00pm

Beth i'w ddisgwyl

Bydd y gwasanaeth hwn yn cyfrannu at y sylfaen wybodaeth a'r set sgiliau sydd eu hangen ar staff i’w datblygu a'u cynnal er mwyn iddyn nhw allu rheoli anghenion gofal iechyd cleifion.

Mae'r tîm yn darparu addysg a hyfforddiant ar amryw bynciau, gan gynnwys Diabetes, cyflyrau anadlol, imiwneiddio a brechu, mesuriadau ffisiolegol a gofal clwyfau, i enwi ond ychydig.

Cysylltwch â ni

Heather Owens - heather.owens2@wales.nhs.uk

Rebecca Gill - Rebecca.gill2@wales.nhs.uk

Dilynwch ni: