Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uned Diagnostig Cardio-Pwlmonaidd

Mae gan yr Uned Diagnostig Cardio-Pwlmonaidd dîm ymroddedig o arbenigwyr medrus iawn mewn diagnosteg gardiaidd, diagnosted anadlol a diagnosteg cwsg, sy'n cynnig ystod o brofion ac ymchwiliadau diagnostig arbenigol ar gyfer y galon a'r ysgyfaint.

Mae'r tîm o arbenigwyr yn cynnwys Pennaeth Adran; Gwyddonydd Clinigol; Ffisiolegydd Cardiaidd neu Anadlol / Cwsg Uwch neu Dra-Arbenigol; Uwch-swyddogion Technegol; Swyddogion Technegol Cynorthwyol; Gwyddonydd Clinigol dan hyfforddiant; Ffisiolegydd dan hyfforddiant a thîm gweinyddol cefnogol.

Rydym yn darparu gwasanaethau yn:

  • Ysbyty'r Tywysog Charles
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty Cwm Cynon (YCC)
  • Ysbyty Cwm Rhondda (YCR)
  • Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie
  • Ysbyty Dewi Sant

Nid yw ein holl wasanaethau ar gael ym mhob safle ysbyty.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Y profion a'r ymchwiliadau a gynigiwn yn yr Uned Diagnostig Cardio-Pwlmonaidd yw:

Ymchwiliadau cardiaidd

  • Electrocardiogramau (ECGs)
  • Profi Straen Ymarfer Corff - Dan arweiniad meddyg
  • Profi Straen Ymarfer Corff - Dan arweiniad ffisiolegydd
  • Monitro ECG dros 24 awr o dan amodau beunyddiol arferol
  • Monitro Pwysedd Gwaed 24 awr o dan amodau beunyddiol arferol
  • Monitro Digwyddiadau Cardiaidd gyda dyfais Novacor
  • Monitro Digwyddiadau Cardiaidd 
  • Echocardiogram Trawsthorasig
  • Ecocardiogram Trawsoesoffagaidd
  • Ecocardiogram Trwy Dywyllu'r Fentrigl Chwith - Dan arweiniad Ffisiolegydd
  • Astudiaeth Swigod (ar gyfer siyntiau) - dan arweiniad ffisiolegydd
  • Ecocardiograffeg Straen gyda Dobiwtamin - dan arweiniad ffisiolegydd
  • Prawf Troi ar Fwrdd
  • Clinigau Dilynol ar gyfer Rheolyddion Calon
  • Mewnblannu Rheolyddion Calon (yn yr Uned Achosion Dydd Cardiaidd)

Ymchwiliadau Anadlol

  • Sbirometreg
  • Profion Gweithrediad yr Ysgyfaint Llawn
  • Astudiaethau Ymateb Broncoledydd
  • Profion anadlu allan ocsid nitrig ffracsiynol (FeNO)
  • Prawf Ymarfer Maes
  • Prawf Her Manitol
  • Asesiadau Hedfan
  • Profion Alergedd Trwy Bigiadau Croen
  • Profion Gweithrediad y Cyhyrau Anadlol
  • Profion Nwyon yn y Gwaed o'r Capilari
  • Prawf Ymarfer Cardio-Pwlmonaidd (CPET)

Ymchwiliadau a Gwasanaethau Cwsg

  • Astudiaethau Cwsg Ocsimetreg Pwls
  • Astudiaethau Cwsg Sianeli Cyfyngedig
  • Clinig Gosod Therapi CPAP
  • Clinig Dilynol Therapi CPAP

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae ymgynghorydd ysbyty yn gofyn am bob ymchwiliad trwy wneud atgyfeiriadau. Efallai eich bod wedi gweld y meddyg o'r blaen mewn clinig cleifion allanol, neu mae apwyntiad claf allanol wedi ei drefnu ac felly mae angen rhai profion cyn i chi weld y meddyg.

Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Iau 8am - 6pm, Dydd Gwener - 8am - 5.30pm

Beth i'w ddisgwyl

Gan ein bod yn darparu amrywiaeth eang o ymchwiliadau yn yr adran, mae pob triniaeth yn gofyn am ei chyfarwyddiadau a'u gofynion cyn-brawf eu hunain, a bydd gan bob ymchwiliad amser apwyntiad gwahanol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich prawf (profion) penodol, cliciwch ar y prawf perthnasol ar y dudalen hon a byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth amdano.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer pob apwyntiad ac ymholiad, cysylltwch â'r derbynfeydd perthnasol:
Ysbyty'r Tywysog Charles - 01685 728403
Ysbyty Brenhinol Morgannwg - 01443 443226

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni: