Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Anhwylder ôl-ymarferol (post-exertional malaise - PEM) neu Waethygu Symptomau ôl-ymarferol (post-exertional symptom exacerbation - PESE)?

Mae Anhwylder ar ôl Ymarfer (PEM) neu Waethygu Symptomau Ôl-Gweithgaredd (PESE) yn dermau rydyn ni’n ddefnyddio i ddisgrifio gwaethygu symptomau ar ôl Ymarfer synhwyraiddgweithgarwch corfforol, meddyliol, emosiynol neu gymdeithasol. Yn aml ystyrir bod lefel y gweithgarwch sy'n ofynnol i achosi gwaethygu symptomau yn fach iawn, o'i gymharu â lefel flaenorol person o oddefgarwch gweithgarwch. Nodwedd PEM/PESE yw'r oedi wrth i symptomau waethygu, a all fod yn unrhyw le o 12 i 48 awr ar ôl y gweithgarwch.

Mae PEM/PESE fel arfer yn cael ei brofi gan bawb sydd â diagnosis o ME/CFS, ac mae'n brofiad cyffredin i bobl sy'n byw gyda COVID Hir neu Flinder Ôl-feirysol. Rydym yn aml yn meddwl am y cylch o ffyniant ac o fethiant wrth feddwl am PEM/PESE. Yn naturiol, rydym yn tueddu i wneud mwy o weithgarwch pan fyddwn ni’n teimlo'n dda, ond bydd y dull hwn yn arwain at gynnydd oedi mewn symptomau os ydym yn byw gyda PEM/PESE. Pan nad ydym yn teimlo cystal rydym yn tueddu i wneud llai o weithgarwch, gan ganiatáu i ni rywfaint o amser orffwys a gwella, sydd yn ei dro yn lleihau symptomau. Pan fyddwn ni’n teimlo'n well eto, rydym yn gwneud mwy o weithgarwch, ac mae'r cylch yn parhau.

Gall rheoli PEM/PESE yn dda wneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd rydych chi'n teimlo a dyma'r allwedd i reoli symptomau i lawer o bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn. Mae'n well gwneud hyn gan ddefnyddio'r camau canlynol sef y 3Ps yn Saesneg: Blaenoriaethu, cynllunio a gwneud pethau’n ara’ deg (Prioritising, Planning a Pacing). Mae'r ddolen hon gwybodaeth ar sut i ymarfer y 3P ac mae fersiwn y gellir ei lawrlwytho o'r cyngor ar gael. Mae cyngor ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar waelod y dudalen yn y ddolen.

Dilynwch ni: