Neidio i'r prif gynnwy

Meddwl pŵl

Mae “meddwl pŵl” (brain fog) yn derm y mae pobl yn aml yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ystod o symptomau. Dydy hi ddim yn derm meddygol nac yn ddiagnosis, ond mae'n broblem real iawn. Mae pobl ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol yn aml yn disgrifio meddwl pŵl neu’r anallu i feddwl yn glir fel:

  • Problem wrth ganolbwyntio, yn enwedig am gyfnodau hirach
  • Meddwl arafaidd neu ddryslyd
  • Anghofrwydd
  • Problemau dod o hyd i eiriau

Mae cysylltiad cryf rhwng meddwl pŵl a blinder, cwsg gwael, iselder, pryder a straen. Mae pobl ag ME/CFS yn gweld bod PESE/PEM yn arwain at anallu i feddwl yn glir. Yn y Gwasanaeth Blinder Sylfaenol, rydym yn aml yn clywed gan ein cleifion bod eu meddwl pŵl yn gwella pan fydd eu blinder a'u cwsg yn cael eu rheoli'n well. Mae pobl hefyd yn aml yn adrodd, wrth iddyn nhw ddysgu ymdopi ag ef yn well, y gall eu lefelau pryder leihau a gall hyn hefyd wella rhywfaint o feddwl pŵl.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n dioddef o feddwl pŵl, darllenwch adrannau'r wefan ar Flinder, Cysgu ac Ymdopi ag Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol Hir. Canolbwyntiwch ar y pethau hyn os gallwch chi. Os fyddwch chi ddim yn gweld unrhyw effaith ar eich meddwl pŵl, neu os ydych yn dal i bryderu, siaradwch â'ch meddyg teulu fel y gallan nhw ystyried atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Blinder Sylfaenol.

 

Mwy o wybodaeth am niwl yr ymennydd:

Cof COVID Hir a chanolbwyntio - Gwella o COVID, Gwybodaeth Fanwl am Y Cof a Chanolbwyntio mewn achosion o COVID Hir. Mae ein harbenigwyr wedi gwirio'r wybodaeth hon ac mae’r un mor berthnasol i bobl sy'n byw gydag ME/CFS neu Flinder Ôl-feirysol.

Dilynwch ni: