Neidio i'r prif gynnwy

Gorflinder

Blinder yw symptom cyffredin o Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol.

Nid yw blinder yr un fath â 'wedi blino'. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r teimlad arferol o eisiau cysgu, neu flinder ar ôl ymarfer corff, cyfnod hir o ganolbwyntio neu 'losgi'r gannwyll yn ei deupen', ond mae blinder yn wahanol a dydy hi ddim yn teimlo'n normal.

Mae blinder yn deimlad llethol o deimlo’n flinedig, diffyg egni a theimlad o ludded.

Gall blinder effeithio ar eich gallu i feddwl yn glir, cadw’ch cydbwysedd, neu drefnu eich meddyliau. Gall hefyd effeithio ar eich lefelau egni corfforol a gall eich gwneud yn llawer mwy ansicr yn emosiynol pan fydd y symptomau’n ddrwg.

Gall blinder gael ei waethygu neu ei sbarduno gan:

  • straen a phryder
  • gofid emosiynol
  • amldasgio
  • gyrru
  • colli cwsg
  • patrwm bwyta afreolaidd
  • a llawer o bethau eraill sy'n aml yn benodol i'r person a dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i ymdrech gorfforol.

Efallai y byddwch chi'n profi beth rydyn ni'n ei alw'n effaith 'boom-bust' lle rydych chi'n teimlo'n "iawn" ar rai dyddiau a dyddiau eraill rydych chi wedi blino'n lân. Mae rhai pobl yn disgrifio blinder fel teimlo fel 'symud trwy dreacl' neu 'bwrw wal'.

Os ydych chi'n dioddef o flinder, mae'n bwysig eich bod chi'n rheoli eich lefelau egni trwy gydol y dydd ac yn ceisio gwella eich patrymau cysgu yn y nos. Mae'n well gwneud hyn gan ddefnyddio'r camau canlynol (sef y 3Ps yn Saesneg): Blaenoriaethu, cynllunio a gwneud pethau’n ara’ deg (Prioritising, Planning a Pacing). Mae'r ddolen hon: www.rcot.co.uk/conserving-energy yn rhoi gwybodaeth ar sut i ymarfer y 3Ps ac mae fersiwn y gellir ei lawrlwytho o'r cyngor ar gael. Mae cyngor ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar waelod y dudalen yn y ddolen.

Gall y Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion Gwasanaeth Blinder Sylfaenol hefyd eich helpu gyda hyn os ydych chi'n cael trafferth.

Gallan nhw eich annog a'ch cefnogi i ddefnyddio technegau i wneud pethau’n ara’ deg, cadw dyddiadur a sgorio. Byddan nhw’n eich helpu wrth gynllunio'ch bywyd er mwyn osgoi ei gorwneud hi rhai dyddiau a sbarduno blinder sy'n gofyn am lawer iawn o orffwys ar ddiwrnodau eraill.

Gwyliwch gymaint o weithiau ag sydd ei angen arnoch a hefyd dangoswch i'ch teulu fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'ch cyflwr.

Gwyliwch yn y drefn hon:

1. Dod o Hyd i Waelodlin Sefydlog.

2. Sut i Reoli Eich Egni

3. Symud Ymlaen

Mwy am Flinder
  • Gwefan World Physio, Gwybodaeth fanwl am flinder gyda COVID Hir a sut i'w reoli. Mae ein harbenigwyr wedi gwirio'r wybodaeth hon a gallwch chi ei ddilyn yn ddiogel os ydych chi'n byw gyda Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol.

Blinder

Diffiniad blinder yw:
Teimlad o flinder corfforol neu feddyliol eithafol
Y cyflwr o fod wedi ymlâdd
Y cyflwr o fod yn ddisbyddedig (am bridd).


Fel y gwelwch o ddiffiniad y geiriadur, mae gan y gair “blinder” lawer o ystyron. O ran ein hiechyd a'n lles, dim ond yr un gair hwn sydd gennym i ddisgrifio ystod o brofiadau o deimlo “blinder corfforol a meddyliol eithafol”. Ar un pen o'r raddfa gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio teimlo'n arbennig o flinedig yn dilyn noson wael o gwsg, gofynion bywyd bob dydd ychwanegol neu weithgarwch corfforol gormodol, gan unigolyn fel arall yn ffit ac iach. Gellir profi blinder o ganlyniad i broses afiechyd hysbys, fel sy'n cael ei brofi gan bobl sy'n byw gyda chanser neu gyflwr y galon neu'r ysgyfaint. Rydym yn meddwl am hyn fel “Blinder Eilaidd” gan fod y symptom yn dod o ganlyniad i rywbeth arall. Er ein bod ni’n defnyddio'r un gair, rydym yn ystyried bod y blinder a brofir gan bobl sy'n byw gyda Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig, COVID Hir a Blinder Ôl-feirysol neu Flinder Ôl-Feirysol yn ganolog, yn gwanhau, ac yn cwmpasu PEM/PESE a'r amrywiaeth o symptomau sy'n mynd gydag ef. Am y rheswm hwn rydym yn defnyddio “Blinder Sylfaenol” i wneud gwahaniaeth.

 

Dilynwch ni: