Gallwch gysylltu â'n hadran ar 01685 351300 neu 01656 754019 . Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi dros y ffôn er mwyn rhoi'r cyngor a'r gefnogaeth orau bosibl i chi.
Yn dibynnu ar anghenion eich plentyn, rydym yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn, trwy fideo, neu wyneb yn wyneb.
Ein nod yw darparu gwasanaeth arbenigol o ansawdd uchel i blant ag anawsterau iaith, lleferydd, a chyfathrebu.
Rydym yn asesu ac yn trin unigolion ag ystod o anawsterau cyfathrebu. Gall therapyddion iaith a lleferydd a chynorthwywyr weithio'n uniongyrchol gyda phlant, neu gallan nhw gefnogi rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu'ch plentyn.
Os ydych chi'n poeni am ddatblygiad iaith a lleferydd eich plentyn, gallai fod yn ddefnyddiol trafod hyn gyda'ch ymwelydd iechyd neu athro eich plentyn.
Mae plant yn datblygu sgiliau cyfathrebu o'u genedigaeth. Mae sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu yn datblygu ar wahanol adegau. Mae rhai yn datblygu'n gyflym, tra bod eraill yn cymryd mwy o amser.
Rydym yn gweithio gyda phlant gydag anawsterau wrth ddefnyddio synau lleferydd, oedi iaith, nam iaith penodol, nam ar eu clyw, taflod hollt, atal dweud, awtistiaeth / anawsterau rhyngweithio cymdeithasol, neu lais cryg.
Rydym hefyd yn gweithio gyda babanod sydd ag anawsterau bwydo a llyncu.
Gall. Mae system atgyfeirio agored gyda ni ar gyfer problemau cyfathrebu. Bydd angen i feddyg atgyfeirio cleifion ar gyfer anawsterau bwydo a llyncu.
Oriau Agor
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30 am i 4:30 pm
Yn eich apwyntiad cychwynnol, bydd y therapydd yn trafod eich pryderon ac, yn dibynnu ar y rheswm dros atgyfeiriad eich plentyn, bydd y therapydd eisiau gwybod am wahanol agweddau ar ddatblygiad iaith a lleferydd eich plentyn. Bydd y therapydd yn gallu darganfod llawer o'r wybodaeth hon trwy chwarae gyda'ch plentyn, neu gall gynnal asesiad ar gyfer plant hŷn.
Ar ddiwedd yr apwyntiad, bydd y therapydd yn penderfynu a fyddai'ch plentyn yn elwa o gael cymorth i ddatblygu ei sgiliau, a bydd yn trafod y ffordd orau ymlaen i'ch plentyn gyda chi.
Therapi Iaith a Lleferydd i Blant
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ
Rhif Ffôn: 01685 351300 neu 01656 754019
Trydarwch Ni
@CTMUHBspeech
Rwy'n rheoli rhestrau aros ac yn goruchwylio'r tîm gweinyddol. Heather Thomas |
Rwy'n goruchwylio rhestrau aros / apwyntiadau. Lorraine Hughes |