Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Blinder Ôl-feirysol?

Mae blinder yn symptom cyffredin o lawer o wahanol heintiau ac mae'n rhan normal o ymateb y corff i ymladd haint. Mae blinder fel arfer yn mynd i ffwrdd yn gyflym unwaith y bydd y corff wedi delio â'r haint. Blinder ôl-feirysol yw pan fydd y blinder a ddechreuodd gyda haint feirws yn parhau am gyfnod hirach ar ôl i'r haint fynd. Mae gwella ar ôl gweithgarwch yn newid, ac efallai y bydd cwsg yn teimlo'n flinderus. Gall blinder effeithio ar bob rhan o fywyd gan gynnwys ysgol neu waith, bywyd cartref, gweithgareddau cymdeithasol, chwaraeon a pherthnasoedd.

Gall blinder ôl-feirysol effeithio ar bobl o bob oed, gan gynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion. Nid yw'r rhesymau dros flinder yn parhau ar ôl haint i rai pobl, yn cael eu deall yn llawn. Nid yw hefyd yn hysbys faint o bobl y mae blinder ôl-feirysol yn effeithio arnyn nhw. Nid yw difrifoldeb a hyd yr amser y mae rhywun yn profi blinder bob amser yn adlewyrchu difrifoldeb yr haint cychwynnol neu'r lefelau ffitrwydd blaenorol. Gall rhai pobl fod yn sâl iawn ar ddechrau'r salwch ond yn gwella yn gymharol gyflym, tra efallai mai salwch feirysol ysgafn yn unig sydd gan bobl eraill ond byddan nhw’n mynd ymlaen i gael blinder gwanychol am amser hir wedyn.

Mae COVID Hir yn fath o flinder ôl-feirysol, a gallai ME/CFS fod, os yw'r ffactor achosol hysbys yn feirws. Mae symptomau a rheolaeth COVID Hir, ME/CFS a Blinder Ôl-feirysol yn debyg iawn, ac felly, gall llawer o'r cyngor cyffredinol ar gyfer pob cyflwr fod yr un mor berthnasol i'r llall.

Bydd y fideos canlynol yn eich helpu i ddeall dadreoleiddio a sut mae hyn yn cyfrannu at y symptomau mewn cyflyrau blinder sylfaenol.

Mae'r sioe sleidiau gyfan tua 30 munud o hyd, ond rydym wedi ei rannu'n 3 rhan. Gwyliwch mewn trefn.

Gwyliwch gymaint o weithiau ag sydd ei angen arnoch a hefyd dangoswch i'ch teulu fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'ch symptomau.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n deall popeth yn llwyr gan fod yna gryn dipyn o iaith feddygol, ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y wybodaeth yn helpu i egluro'ch symptomau, a beth sy'n digwydd yn eich corff.

Hoffem gydnabod BACME, Cymdeithas Clinigwyr ME/CFS Prydain a'u cyfranwyr gwreiddiol am y wybodaeth gefndir yr ydym wedi seilio'r sleidiau hyn arni.

Mae fideos a sgript wedi cael eu datblygu gan Sally Collins, Ffisiotherapydd.

Dilynwch ni: