Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapi’n eich helpu chi i symud yn iawn eto a chyrraedd eich potensial ac mae’n helpu i atal dirywiad neu gymhlethdodau allai ddigwydd pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae ffisiotherapyddion yn darparu asesiadau, triniaeth ac adsefydlu ar gyfer y canlynol:

     

    All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

    Mae amrywiaeth o opsiynau o ran atgyfeirio at y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Gweler y Gwasanaethau Cysylltiedig am fwy o wybodaeth.

    Amseroedd agor
    Dydd Llun i ddydd Gwener 8:00am – 4:00pm

    Beth i'w ddisgwyl

    Mae ffisiotherapyddion yn cynnig triniaeth ac asesiadau arbenigol ar gyfer amrywiaeth eang o broblemau gan weithio gyda phobl i wella eu hiechyd a’u lles eu hun.

    Rydyn ni’n defnyddio sgiliau asesu a rhesymu clinigol i greu cynlluniau triniaeth sy’n addas i gyflwr y cleifion.

    Mae’n bosib y cewch chi eich trin fel claf allanol, a hynny fel unigolyn neu mewn grŵp, neu mae’n bosib y byddwch chi’n cael eich trin ar y ward fel claf mewnol.

    Sicrhewch eich bod chi’n gwisgo dillad llac ac esgidiau gyda sodlau gwastad ar gyfer eich asesiad.

    Gweler y Gwasanaethau Cysylltiedig am fwy o wybodaeth.

    Cysylltwch â ni
    Ar gyfer pob apwyntiad, cysylltwch â’n Canolfan Ffisiotherapi ar
    01443 715012

    Dilynwch ni: