Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o driniaeth a'ch adferiad. Mae’r fideo hwn gan Goleg Brenhinol yr Anaesthetegyddion yn rhoi cyngor defnyddiol: Paratoi ar gyfer llawdriniaeth: Fitter Better Sooner 2022
Gall eich triniaeth wedi’i chynllunio fod yn her i chi a'ch corff. Gall gwneud nifer fach o newidiadau wneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd yr ydych yn ymateb ac yn gwella ar ôl eich triniaeth. Y meysydd i’w hystyried i’ch cadw’n iach tra byddwch yn aros yw: bwyta’n iach, rhoi’r gorau i ysmygu, eich lefelau gweithgarwch corfforol, ymwybyddiaeth o ddefnydd o alcohol a chyffuriau, eich lles meddyliol ac ymdopi â phryder. Mae gwybodaeth i’w chael yn yr adran ‘Cadw’n Iach Tra Rydych chi’n Aros’ i’ch helpu i:
cael gwell ymateb i'ch triniaeth yn y dyfodol ac adferiad cyflymach
gwella eich lefelau egni, lleihau blinder a gwella eich patrwm cysgu
cynnal eich annibyniaeth a gwneud mwy o'ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd
gwella eich ffitrwydd cyffredinol a'ch synnwyr o les a hyrwyddo ffordd iach o fyw hirdymor