Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw COVID hir?

Weithiau’r enw am COVID Hir yw Syndrom Ôl-COVID-19. Gall symptomau COVID Hir ddechrau naill ai yn ystod neu ar ôl haint COVID-19. Caiff COVID Hir ei ddiagnosio os yw'r symptomau'n parhau am fwy na 12 wythnos, ac ni ellir ei esbonio trwy ddiagnosis gwahanol. Fel arfer mae yna nifer o symptomau, a all newid dros amser a gallant effeithio ar systemau lluosog yn y corff. Gall y symptomau ddod a mynd, amrywio o ran dwyster a gallant gael effaith fawr ar ansawdd bywyd. Amcangyfrifir bod 1.9 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda COVID Hir.

Symptomau mwyaf cyffredin COVID Hir yw blinder eithafol, PEM/PESE, teimlo’n fyr o anadl , colli’r gallu i arogli a phoenau cyhyrau, Fodd bynnag, gall fod llawer o symptomau eraill hefyd, gan gynnwys niwl yr ymennydd , poen neu dyndra yn y frest, anhawster cysgu, crychguriadau’r galon a mwy.

Mae symptomau a rheolaeth COVID Hir, ME/CFS a Blinder Ôl-feirysol yn debyg iawn, ac felly, gall llawer o'r cyngor cyffredinol ar gyfer pob cyflwr fod yr un mor berthnasol i'r llall.

Bydd y fideos canlynol yn eich helpu i ddeall dadreoleiddio a sut mae hyn yn cyfrannu at y symptomau mewn cyflyrau blinder sylfaenol.

Mae'r sioe sleidiau gyfan tua 30 munud o hyd, ond rydym wedi ei rannu'n 3 rhan. Gwyliwch mewn trefn.

Gwyliwch gymaint o weithiau ag sydd ei angen arnoch a hefyd dangoswch i'ch teulu fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'ch symptomau.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n deall popeth yn llwyr gan fod yna gryn dipyn o iaith feddygol, ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y wybodaeth yn helpu i egluro'ch symptomau, a beth sy'n digwydd yn eich corff.

Hoffem gydnabod BACME, Cymdeithas Clinigwyr ME/CFS Prydain a'u cyfranwyr gwreiddiol am y wybodaeth gefndir yr ydym wedi seilio'r sleidiau hyn arni.

Mae fideos a sgript wedi cael eu datblygu gan Sally Collins, Ffisiotherapydd.

Dilynwch ni: