Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Enseffalomyelitis Myalgig/Syndrom Blinder Cronig (ME/CFS)?

Enseffalomyelitis Myalgig (ME) a Syndrom Blinder Cronig (CFS) yw'r ddau derm a ddefnyddir ar gyfer yr un cyflwr. Mae achos ME/CFS yn ansicr, ond gall rhai heintiau ei sbarduno. Mae'n gyflwr tymor hir a all effeithio ar systemau lluosog yn y corff, ac o ganlyniad gall achosi nifer o wahanol symptomau. Does dim prawf diagnostig ar gyfer ME/CFS, felly mae'n rhaid ei ddiagnosio trwy ddiystyru cyflyrau meddygol eraill a allai achosi symptomau tebyg.

Symptom mwyaf nodweddiadol ME/CFS yw blinder gwanychol . Problemau eraill yw Anhwylder Ôl-Ymarferol neu Waethygu Symptomau Ôl-Ymarferol , cwsg blinderus ac anawsterau gwybyddol . Mae'n gyflwr cyfnewidiol a all effeithio ar bawb yn wahanol, gyda symptomau'n amrywio o ran difrifoldeb, ac yn dod a mynd heb fawr o rybudd. Amcangyfrifir bod 250,000 o bobl yn y DU yn byw gydag ME/CFS. Gall gael effaith sylweddol ar allu person i fyw ei fywyd bob dydd, ac ar ansawdd bywyd. Ar hyn o bryd does dim modd iacháu ME/CFS, ond gellir defnyddio strategaethau i reoli a byw'n dda gyda'r cyflwr.

Mae ME/CFS wedi'i gategoreiddio gan ganllawiau NICE fel ME/CFS ysgafn, lle gall rhywun ofalu amdano’i hun ac yn gwneud rhai tasgau domestig ysgafn, i gymedrol, difrifol a difrifol iawn, lle byddai rhywun yn y gwely drwy'r dydd ac yn ddibynnol ar ofal.

Mae symptomau a rheolaeth COVID Hir, ME/CFS a Blinder Ôl-feirysol yn debyg iawn, ac felly, gall llawer o'r cyngor cyffredinol ar gyfer pob cyflwr fod yr un mor berthnasol i'r llall.

Bydd y fideos canlynol yn eich helpu i ddeall dadreoleiddio a sut mae hyn yn cyfrannu at y symptomau mewn cyflyrau blinder sylfaenol.

Mae'r sioe sleidiau gyfan tua 30 munud o hyd, ond rydym wedi ei rannu'n 3 rhan. Gwyliwch mewn trefn.

Gwyliwch gymaint o weithiau ag sydd ei angen arnoch a hefyd dangoswch i'ch teulu fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'ch symptomau.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n deall popeth yn llwyr gan fod yna gryn dipyn o iaith feddygol, ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y wybodaeth yn helpu i egluro'ch symptomau, a beth sy'n digwydd yn eich corff.

Hoffem gydnabod BACME, Cymdeithas Clinigwyr ME/CFS Prydain a'u cyfranwyr gwreiddiol am y wybodaeth gefndir yr ydym wedi seilio'r sleidiau hyn arni.

Mae fideos a sgript wedi cael eu datblygu gan Sally Collins, Ffisiotherapydd.

Dilynwch ni: